Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd eich hawl i chwarae ac ymlacio. Mae wedi addo y bydd pob penderfyniad y mae’n ei wneud yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried a oes digon o gyfleoedd i chi i chwarae lle rydych yn byw.

Pan fydd Llywodraeth Cymru, neu unrhyw awdurdod lleol, yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r ffordd y mae tir yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru, a phan fydd unrhyw sefydliad cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau fel hyn, mae’r ymrwymiad hwnnw’n golygu y dylai ystyried eich hawl i orffwys a hamddena a phrofi gweithgareddau diwylliannol. Dylai awdurdodau lleol ystyried hyn wrth wneud cyfreithiau lleol (‘is-ddeddfau’) ynglŷn â ble mae pobl yn cael mynd a beth maen nhw’n cael ei wneud, ac wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â’r pethau y bydd yn gwario arian arnynt.

Mae llawer o gymunedau gwahanol iawn yng Nghymru – rhai’n wledig iawn yng nghanol cefn gwlad, rhai’n drefol iawn fel trefi mawr a dinasoedd. Mae gan bob cymuned heriau gwahanol i ymdrin â nhw er mwyn sicrhau bod y plant sy’n byw yno’n cael cyfleoedd i chwarae, a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol. Mae angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydnabod hyn a helpu pob plentyn yng Nghymru i gael yr un mathau o gyfleoedd hamdden.

Rydym wedi edrych ar eich hawl i orffwys a hamddena drwy ei rhannu’n wahanol adrannau:

Lleoedd i chwarae ac ymlacio

Amser i chwarae ac ymlacio

Cyfleoedd i chwarae ac ymlacio

Bod yn ddiogel wrth chwarae ac ymlacio

Clybiau a sefydliadau

Cwrdd â ffrindiau