Amser i Chwarae

  • Diben llawer o’ch hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw eich diogelu rhag pethau a allai eich niweidio – mae gennych hefyd hawl i chwarae ac ymlacio
  • Er mwyn i chi allu arfer eich hawl i chwarae, gorffwys ac ymlacio, mae’n rhaid i chi gael amser i wneud hynny
  • Os oes rhywun yn eich rhwystro rhag cael amser i orffwys a chwarae, fe allent fod yn torri’r gyfraith

Er mwyn i chi allu ymlacio a mwynhau eich amser hamdden mae’n rhaid i chi gael amser i wneud hynny – felly ddylech chi ddim treulio eich amser i gyd yn yr ysgol ac yn gwneud gwaith cartref, neu’n gwneud rhyw fath arall o waith, neu’n gwneud llawer o weithgareddau wedi’u trefnu. Efallai eich bod yn cael hwyl yn gwneud y pethau hyn y tu allan i’r ysgol ond fe ddylech hefyd gael amser i wneud y pethau rydych chi eisiau eu gwneud yn eich ffordd eich hun ac ar eich telerau eich hun.