- Rhan o swyddogaeth eich rhieni (neu’r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch) yw gwneud yn siŵr eich bod yn deall sut i fod yn ddiogel pan fyddwch allan ar y stryd
- Mae cyfreithiau i ddweud wrth bawb sut i ymddwyn a fydd yn eich diogelu rhag unrhyw berygl y gallech ei wynebu
- Os ydych mewn trafferth gyda’r heddlu, mae eich hawliau dynol yn golygu y dylech gael eich trin yn iawn
Os ydych allan ar y stryd heb oedolyn, gall deimlo fel petai yna set wahanol o reolau. Dydych chi ddim gartref nac yn yr ysgol, lle mae rhywun arall yn gallu dweud wrthych yn hawdd beth i’w wneud a sut i wneud rhywbeth. Fe ddylai eich rhieni neu’r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch eich dysgu sut i fod yn ddiogel pan fyddwch allan. Wrth i chi fynd yn hŷn fe ddylech allu mynd allan i gwrdd â ffrindiau ar eich pen eich hun. Fe ddylech fod yn rhydd i wneud hyn ar yr amod nad ydych yn rhwystro pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.
Eich prif hawl fel plentyn/person ifanc ar y stryd yw’r hawl i gwrdd â’ch ffrindiau. Dylech fod yn rhydd i wneud hynny ar yr amod nad ydych yn rhwystro pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.
Mae’r gyfraith yn eich diogelu mewn ffyrdd eraill hefyd pan fyddwch allan – cyfreithiau ynglŷn â gyrru, a chyfreithiau i wneud yn siŵr na fydd neb yn ymosod arnoch neu’n eich herwgipio. Mae’r gyfraith hefyd yn gosod cyfyngiadau ar sut rydych yn ymddwyn fel nad yw pobl eraill yn cael eu brifo neu eu bygwth gennych.
Yn y rhan hon o’r wefan, rydym yn trafod