Ar y stryd am nad ydw i’n gallu mynd adref

  • Yng Nghymru, mae hawliau dynol plant yn cael eu cydnabod ac mae’n rhaid i’r llywodraeth roi ‘sylw dyledus’ i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  • Mae gennych hawl i gael gofal a safon byw ddigonol
  • Os ydych ar y stryd am nad ydych yn gallu mynd adref a chithau o dan 18, fe ddylech allu cael cymorth a chefnogaeth

Os ydych o dan 18, mae Confensiwn y Cenhedloedd ar Hawliau’r Plentyn yn berthnasol i chi. Fel arfer, rhieni sy’n gofalu am blant ac yn rhoi lle diogel iddynt i fyw. Weithiau, dyw hynny ddim yn digwydd, ac os felly fe ddylai eich awdurdod lleol ofalu amdanoch. Gallai hynny fod mewn gofal maeth neu mewn cartref plant. Ond weithiau, dyw hyd yn oed hynny ddim yn gweithio, os nad ydych yn teimlo y gallwch fyw gyda’ch rhieni neu aros yn y trefniant mae’r awdurdod lleol wedi’i wneud i chi am ryw reswm – naill ai am nad ydych yn cyd-dynnu â’r bobl rydych i fod i fyw gyda nhw neu am eich bod yn cael eich brifo neu eich cam-drin. Os ydych yn teimlo nad oes gennych unman i fynd a bod yn rhaid i chi fyw ar y stryd, mae gennych hawliau o hyd, ac fe ddylai’r awdurdod lleol a sefydliadau eraill helpu i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel a bod gennych rywle addas i fyw.