- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys hawliau i blant i gael gwybodaeth, gan gynnwys ar-lein. Mae cyfreithiau eraill i’ch diogelu pan fyddwch ar-lein
- Os ydych yn gwybod beth yw eich hawliau a beth mae’r gyfraith yn ei ddweud ynglŷn â bod ar-lein, gallwch wneud penderfyniadau gwell am yr hyn rydych yn ei wneud ar-lein
- Mae rhai o’ch hawliau ar-lein yn golygu cadw’r ddysgl yn wastad er mwyn sicrhau nad yw’r hyn rydych yn ei wneud yn effeithio ar hawliau pobl eraill
Mae gennych hawliau plentyn sy’n ddefnyddiol ac sydd yno i’ch diogelu a’ch cefnogi pan fyddwch ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys eich hawl i gael gafael ar ystod eang o wybodaeth, eich hawl i breifatrwydd, a’ch hawl i gael eich diogelu rhag pethau a allai eich niweidio a niweidio eich datblygiad.
Mae bod ar-lein yn rhan fawr o’n bywydau. Dyma lle rydym yn cyfathrebu â’n ffrindiau pan nad ydym gyda nhw, a lle rydym yn mynd yn aml i chwilio am wybodaeth, ac i gael adloniant. Wrth wneud y pethau hyn i gyd, mae cyfle i eraill wneud niwed i ni, neu i ddod o hyd i wybodaeth amdanom y gallant ei defnyddio. Mae rhai pobl yn defnyddio’r amgylchedd ar-lein i fwlio neu i reoli. Mae gennych nifer o hawliau plentyn sy’n effeithio ar yr amser rydych yn ei dreulio ar-lein.
Mae gennych hawl i gael gwybodaeth.
Mae gennych hawl i fynegi eich hun yn rhydd – ond mae’n rhaid i chi beidio ag effeithio ar hawliau pobl eraill.
Mae gennych hawl i breifatrwydd sy’n effeithio ar sut mae’r gwefannau rydych yn eu defnyddio’n casglu ac yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei rhannu â nhw pan fyddwch ar-lein.
Mae gennych hawl i gael eich diogelu rhag pethau a allai eich niweidio ac effeithio ar eich datblygiad – felly fe ddylech gael eich diogelu rhag pobl a allai ddefnyddio’r we i’ch bwlio neu eich cam-drin, a rhag delweddau a chynnwys a allai fod yn niweidiol i chi.
Mae’r gyfraith yr un fath yng Nghymru ag yng ngweddill y DU. Mae cyfreithiau ynglŷn â sut mae sefydliadau’n cael defnyddio eich gwybodaeth. Mae cyfreithiau sy’n golygu na ddylai rhai mathau o wybodaeth gael eu rhannu. Gall y cyfreithiau hyn eich diogelu rhag gweld pethau a allai beri gofid i chi, ond fe allant hefyd gyfyngu ar yr hyn y cewch ei bostio ar-lein. Mae cyfreithiau hefyd i sicrhau bod pobl sy’n ceisio gwneud niwed i chi ar-lein, neu sy’n defnyddio llwyfannau ar-lein i wneud niwed i chi yn y byd go iawn, yn cael eu cosbi.
Rydym am i chi fod yn ddiogel wrth ddefnyddio’r we, ac yn hyderus y byddwch yn gwybod beth i’w wneud i gael help os oes rhywbeth yn digwydd sydd ddim yn iawn. Rydym wedi llunio adrannau gwybodaeth ynglŷn â’ch hawliau a sut mae’r gyfraith yn gweithio yng Nghymru, ar y pynciau isod: