Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

  • Un ffordd o ddod o hyd i wybodaeth a’i rhannu ar-lein a chyfathrebu â ffrindiau yw defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
  • Fe ddylech gael eich diogelu rhag gweld a chlywed pethau a allai eich niweidio ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Os oes rhywun yn eich trin yn wael ar y cyfryngau cymdeithasol, fe allent fod yn torri’r gyfraith

Mae gennych hawl i gael gwybodaeth ac i rannu eich barn a’ch safbwyntiau, ac mae hyn yn cynnwys yr hyn rydych yn ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud y dylai’r llywodraeth ddiogelu plant rhag gweld pethau a fydd yn eu niweidio. Er bod cyfreithiau penodol ynglŷn â rhai mathau o gynnwys, a rhai mathau o ymddygiad ar-lein, does dim cyfreithiau cyffredinol i’ch diogelu pan fyddwch ar-lein, gan gynnwys pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Dyw’r cyfryngau cymdeithasol ddim mewn gwirionedd yn eich diogelu rhag gweld pethau a allai beri gofid neu niwed i chi. Does dim ‘cyfyngiad oedran’ ar gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, er bod gan rai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ‘isafswm oedran’ ar gyfer creu cyfrif. Er nad oes cyfyngiad oedran ar y cynnwys, mae rhywfaint o’r cynnwys wedi ei rwystro, ac fe allai pobl sy’n rhoi pethau amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol neu bobl sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dargedu plant fod mewn trafferth gyda’r heddlu.

Yn union fel y dylech gael eich diogelu wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid i chithau hefyd fod yn ymwybodol o hawliau pobl eraill a’r cyfreithiau sy’n eu diogelu. Os na wnewch hynny, fe allech fod mewn trafferth gyda’r heddlu, naill ai oherwydd eich bod wedi postio rhywbeth na ddylech fod wedi’i bostio, neu am eich bod wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dargedu rhywun arall.