Cael gafael ar wybodaeth ar-lein

  • Mae gennych hawl i gael gwybodaeth a syniadau o sawl man, gan gynnwys ar-lein
  • Does gennych ddim hawl i fynd ar-lein fel y cyfryw, ond fe allai fod yn wahanol os yw methu â mynd ar-lein yn golygu na allwch gael hyd i wybodaeth
  • Weithiau chewch chi ddim gweld gwybodaeth oherwydd y byddai’n niweidiol i chi

Mae cymaint o wybodaeth ar-lein nes ei bod yn anodd dychmygu bywyd heb y we. Ond mae gwybodaeth ar gael o ffynonellau eraill hefyd – llyfrau, papurau newydd a chylchgronau, ac mae gennych hawl i gael gwybodaeth, ond nid o reidrwydd i fynd ar-lein.  Weithiau, bydd yn rhaid i chi fynd ar-lein i gael y wybodaeth rydych ei heisiau – mae mwy a mwy o sefydliadau’n rhoi gwybodaeth ar-lein ac nid ar ffurfiau eraill.

Dyw’r ffaith bod gwybodaeth ar gael ar-lein ddim yn golygu ei bod yn gywir. Yn yr un modd, efallai y byddwch yn methu â dod o hyd i wybodaeth rydych ei heisiau ar-lein, nac yn unman arall.