- Mae gennych hawl i weld a rhannu gwybodaeth ar-lein os nad yw’r wybodaeth honno’n niweidiol i chi – neu os nad yw’r hyn rydych yn ei rannu’n niweidiol i eraill
- Fe ddylech gael eich diogelu rhag gweld a chlywed pethau a allai fod yn niweidiol i chi ar-lein
- Os gwelwch chi rywbeth sy’n peri gofid neu sarhad i chi ar-lein, gallwch roi gwybod i’r heddlu
Nid dim ond yng Nghymru, ond yn y DU, mae gan bawb, gan gynnwys plant, hawl i ddweud neu bostio’r hyn a fynnant ar-lein. Mae’n rhaid cadw’r ddysgl yn wastad rhwng hynny a gwneud yn siŵr nad yw’r hyn sy’n cael ei ddweud neu ei bostio’n rhwystro pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau. Mae cyfreithiau ynglŷn â’r hyn na ddylai gael ei bostio ar-lein – ond dyw’r ffaith bod rhywbeth yn peri gofid neu niwed i chi fel plentyn ddim yn golygu ei fod yn torri’r gyfraith. Yn gyffredinol, does dim ‘cyfyngiadau oedran’ ar yr hyn sy’n cael ei bostio ar-lein, felly pan fyddwch chi ar y we, efallai y gwelwch chi rywbeth sydd ddim yn iawn i chi – ond dyw hynny ddim yn torri’r gyfraith.
Oherwydd bod gwahaniaeth weithiau rhwng yr hyn sy’n peri gofid i chi a’r hyn sy’n torri’r gyfraith, mae bod yn ddiogel ar-lein hefyd yn golygu bod yn rhaid i chi, eich rhieni a phobl eraill sydd â chyfrifoldeb i’ch diogelu – fel eich athrawon neu weithwyr ieuenctid – feddwl sut i ddefnyddio’r we mewn ffordd sy’n ddiogel i chi.
Os oes rhywun yn defnyddio’r we i geisio’ch niweidio’n uniongyrchol, mae cyfreithiau i’ch diogelu, felly mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd mae rhywun yn ymddwyn yn amhriodol ar-lein, a dweud wrth rywun er mwyn i chi gael help.
Mae bod yn ddiogel ar-lein hefyd yn golygu gwneud yn siŵr eich bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ar-lein. Ewch i’r adran Fy Ngwybodaeth Ar-lein i gael gwybod mwy.