Social Media Ban
Prif alwad: Sicrhau bod gweithredu’r gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i rai dan 16 oed yn rhoi ystyriaeth lawn a chytbwys i’r ystod lawn o hawliau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ei bod yn bwriadu cyflwyno cyfyngiadau i atal plant o dan 16 oed rhag cael cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol, rhaid troi ein sylw nawr tuag at weithredu’r gwaharddiad hwnnw.
Mae amddiffyn plant rhag niwed ar-lein yn amcan hanfodol sy’n cael ei rannu’n eang. Fodd bynnag, mae cwestiynau pwysig yn parhau ynghylch effeithiolrwydd, gorfodaeth, cymesuredd a chydnawsedd y polisi â hawliau plant.
Yng Nghymru, dylid ystyried y materion hyn yng nghyd-destun Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac ymrwymiad deddfwriaethol a pholisi nodedig Cymru i roi hawliau plant wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau.
Yn y papur briffio newydd, mae Dr Rhian Croke (Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru) a Dr Sara Correia-Hopkins (Prifysgol Abertawe/COPRNET) yn nodi pam mae angen mwy na dim ond cyfyngiad, a bod angen dull hawliau plant cyfannol wrth wraidd y gwaith o weithredu unrhyw waharddiad ar y cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.
BRIFFIO
Gwaharddiad ar ddefnyddio Cyfryngau Cymdeithasol: Ystyriaethau Hawliau Plant yng nghyd-destun Cymru
Dr Rhian Croke (Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru)
Dr Sara Correia-Hopkins (Prifysgol Abertawe a COPRNET)
Mehefin 2026
