Smacio plant yng Nghymru – pam bydd y gyfraith yn wahanol i Loegr cyn bo hir?

Smacio plant yng Nghymru – pam bydd y gyfraith yn wahanol i Loegr cyn bo hir?

Cyn bo hir bydd smacio plant yng Nghymru yn cael ei wahardd (o 2022 ymlaen). Efallai eich bod wedi gweld hyn ar y newyddion yn gynharach eleni pan gyhoeddwyd y newid hwn yn y gyfraith yng Nghymru. Felly pam bod y gyfraith yn newid yng Nghymru a pha wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i blant?

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud am smacio?

Cyn i Gymru wneud newidiadau i’r gyfraith ynglŷn â smacio, roedd y gyfraith yr un peth â Lloegr.

Er mwyn bod yn glir ynglŷn â hyn, does dim cyfraith sy’n dweud ei bod hi’n iawn yn gyffredinol i rieni daro eu plant. Mae’r gyfraith yn dweud ei bod hi’n anghywir yn gyffredinol i rywun daro – neu ‘ymosod’ – ar rywun arall. Fel arfer, os yw rhywun yn taro rhywun arall, er nad yw efallai’n gadael marc neu’n achosi anaf parhaol, fe allen nhw gael eu harestio a’u cyhuddo o’r drosedd o ‘ymosodiad cyffredin’ neu efallai ymosodiad mwy difrifol, fel ‘anafu’. Os ydyn nhw’n cytuno eu bod wedi taro’r unigolyn, neu os yw’r llys yn penderfynu eu bod wedi, fe fyddan nhw’n derbyn cosb a allai olygu treulio amser yn y carchar.

Er mai dyma fydd yn digwydd yn arferol, mae’r gyfraith yn nodi mewn rhai achosion os yw rhiant yn cyflawni ymosodiad cyffredin yn erbyn eu plentyn y gallai hyn gael ei ystyried yn ‘gosb resymol’ yn dilyn rhywbeth mae’r plentyn wedi’i wneud. Pan fo hyn yn digwydd nid yw’n cael ei ystyried yn ymosodiad. Mae gan y rhiant ‘amddiffyniad’. Nid yw’r amddiffyniad hwn ond yn amddiffyniad pan fo rhiant yn cyflawni ymosodiad cyffredin. Nid yw’n gymwys os yw’r ymosodiad yn fwy difrifol, er enghraifft os yw’r rhiant yn achosi anaf i’w blentyn.

Pa bryd fydd taro, neu ‘smac’ yn cael ei ystyried yn ‘gosb resymol’?

Er bod y gyfraith yn sôn am amddiffyniad o ‘gosb resymol’, nid yw ond yn gymwys ar gyfer ymosodiad cyffredin pan

  • mae rhiant (neu rhywun sy’n gweithredu fel rhiant) yn taro eu plentyn eu hunain
  • nid oes rhaid i’r trawiad fod wedi gadael marc ar y plentyn (er efallai ei fod yn gadael ‘marc coch dros dro ar y croen’)

Os yw’r trawiad yn achosi niwed sy’n fwy difrifol i’r plentyn, yna nid yw’r rhiant yn gallu dweud bod y weithred yn gyfystyr â ‘chosb resymol’[1].

Beth mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn ei ddweud am daro plentyn?

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn dweud y dylai plant gael eu diogelu rhag  “…unrhyw ffurf o drais corfforol, trais meddyliol, niwed neu gam-drin ” a rhag “cael eu hiselhau”. Mae Pwyllgor Hawliau’r Plentyn wedi dweud droeon fod hyn yn cynnwys ‘’smacio’, sef taro plentyn, ac mae wedi beirniadu gwledydd sy’n parhau i ganiatáu taro plentyn, gan gynnwys y DU. Mae’r Pwyllgor yn dweud bod taro plentyn, hyd yn oed os yw’n cael ei alw’n ‘smac’, yn cael ei ystyried yn drais, ac ni ddylid ei ganiatáu.

Pam wnaeth Cymru benderfynu newid y gyfraith?

Mewn rhai meysydd mae gan Gymru’r pwerau i greu ei deddfau ei hun, felly mae’r gyfraith yn gallu bod yn wahanol i Loegr.

Gwnaeth Cymru ymrwymiad i’r CCUHP ac i hawliau plant yng Nghymru pan gyflwynodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sy’n golygu ei bod yn rhaid i Llywodraeth Cymru ystyried y CCUHP pan fydd yn gwneud unrhyw benderfyniadau. Nid dim ond i benderfyniadau sy’n amlwg yn effeithio ar blant a phobl ifanc mae hyn yn berthnasol, mae’n berthnasol i bob penderfyniad.

Mae cyflwyno deddf i ddileu’r amddiffyniad o ‘gosb resymol’ yng Nghymru yn gam cadarnhaol er hawliau plant yng Nghymru. Mae wedi cael ei lunio i leihau’r defnydd o gosbi corfforol yn erbyn plant yng Nghymru, a chael Cymru i gyd-fynd â’r CCUHP sy’n dweud y dylai plant gael eu diogelu rhag trais a cham-drin.

Pa bryd fydd y gyfraith yn newid?

Er bod y Senedd wedi pasio’r ddeddf i ddileu’r amddiffyniad o gosb resymol, nid yw eto’n rhan o’r gyfraith yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu rhedeg ymgyrch fel bod pobl yn gwybod am y newid yn y gyfraith, ac yna gweithredu’r ddeddf o 2022 ymlaen.

Ai Cymru yn unig fydd yn gwahardd smacio?

Nid dim ond Cymru fydd yn gwahardd smacio yn y DU.  Bydd yr Alban yn gwahardd smacio yn 2021. Mae Jersey hefyd wedi gwahardd smacio, ac er nad yw’n rhan o’r DU, mae’n rhan o Ynysoedd y Sianel, ac mae ganddi gysylltiad agos â’r DU. Sweden oedd y wlad gyntaf i wahardd smacio, a hynny nôl ym 1979. Ers hynny mae nifer o wledydd Ewropeaidd eraill wedi gwahardd smacio, yn ogystal â gwledydd eraill y tu allan i Ewrop gan gynnwys Israel a De Affrica.

Beth sy’n digwydd os bydd teulu o Loegr yn ymweld â Chymru?

Mae’r gyfraith yng Nghymru’n berthnasol i unrhyw unigolyn pan fyddan nhw yng Nghymru. Os yw teulu ar wyliau yng Nghymru, ac mae rhiant yn taro eu plentyn, yna o 2022 ymlaen ni fyddan nhw’n cael dweud mai ‘cosb resymol’ yw pan fydd y gyfraith yn dod i rym.

Beth fydd yn digwydd os bydd fy rhieni’n fy nharo fi cyn i’r gyfraith ddod i rym?

Nes bydd y newid yn y gyfraith yn dod i rym, bydd rhieni’n gallu parhau i ddibynnu ar yr eglurhad o amddiffyniad o gosb resymol os ydyn nhw’n taro eu plant. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio, nad yw hyn ond yn gymwys pan nad yw’r ‘taro’ yn achosi unrhyw farc neu anaf parhaol, a dim ond os ydych chi’n cael eich taro â llaw. Mae unrhyw beth arall yn golygu bod eich rhieni’n torri’r gyfraith ac ni fydd ganddyn nhw amddiffyniad. Gallwch gael gwybod mwy am beth i’w wneud os yw eich rhieni’n eich niweidio chi ar ein gwefan  yma.

 

[1] Mae amddiffyniad cosb resymol wedi’i gynnwys yn Neddf Plant 2004, adran 58

Gadael Ymateb