Mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddinistriol iawn ar hawliau plant.
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud mai newid yn yr hinsawdd yw’r ‘bygythiad mwyaf i iechyd plant ac mae’n gwaethygu gwahaniaethau iechyd’ a dywedodd Swyddfa’r Uchel Gomisiynydd ar Hawliau Dynol ei fod yn cael effaith anghymesur ar blant. Mae penderfyniad gan Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod, am y tro cyntaf, bod cael amgylchedd glân, iach a chynaliadwy, yn hawl ddynol. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrthi ar hyn o bryd yn drafftio Sylw Cyffredinol newydd ar Hawliau Plant a’r Amgylchedd, gan ganolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd.
Mewn ymateb i gŵyn a ffeiliwyd gan 16 o ymgyrchwyr ifanc dros yr hinsawdd, gan gynnwys Greta Thunberg, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi penderfynu’n ddiweddar y gellir dal Gwladwriaeth yn gyfrifol am effaith ei hallyriadau carbon ar hawliau plant o fewn a thu hwnt i’w thiriogaeth (UNCRC: hawl i fywyd, erthygl 6; iechyd, erthygl 24; a diwylliant, erthygl 30). Canfu’r Pwyllgor nad oedd Gwladwriaethau’n cymryd camau digonol i leihau allyriadau. Fodd bynnag, dywedodd y Pwyllgor na fyddai’n derbyn cwynion gan blant ddim ond ar ôl iddynt roi cynnig ar bob llwybr gwneud iawn yn eu gwlad eu hunain. Ar un wedd, mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol oherwydd bod Gwladwriaethau wedi cael eu dal yn gyfrifol am allyriadau carbon, ond ar y llaw arall, bydd yn rhaid i’r achwynwyr ifanc lywio drwy brosesau cyfreithiol a allai fod yn hirfaith yn eu gwledydd eu hunain i ddal eu llywodraeth i gyfrif.
Mae bron pob Gwladwriaeth sydd wedi cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hefyd wedi’u rhwymo gan Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCC). Mae’r Gwladwriaethau hyn hefyd yn honni eu bod yn cefnogi Cytundeb Paris ar Newid yn yr Hinsawdd 2015 a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, sydd hefyd yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae’r mecanweithiau rhyngwladol hyn wedi cael eu beirniadu am beidio ag integreiddio hawliau plant yn llawn fel hawliau cyfreithiol; maent hefyd yn wynebu beirniadaeth am nad ydynt yn darparu mecanweithiau cwyno sy’n sensitif i blant. Mae hyn i gyd yn ei gwneud yn heriol gwireddu rhoi hawliau plant ar waith o ran newid yn yr hinsawdd.
Ym mis Hydref, mynegodd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth rwystredigaeth pan gafodd ei chlywed yn Senedd Cymru yn dweud (yng nghyswllt yr argyfwng hinsawdd) ei bod yn teimlo’n flin pan fydd pobl “yn siarad ond ddim yn gweithredu”. Mae’r rhwystredigaeth hon yn cael ei rhannu gan lawer o blant ar draws y byd sy’n gobeithio y bydd llywodraethau yn uwchgynhadledd COP26 yn camu i’r adwy ac yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros newid yn yr hinsawdd ac yn cymryd camau i barchu hawliau plant a hawliau cenedlaethau’r dyfodol.
Mewn ymateb i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd, rhaid i lywodraethau ddysgu gwersi o argyfwng byd-eang iechyd y cyhoedd Covid-19. Nid yw deddfwriaeth, polisïau ac ymdrechion iechyd y cyhoedd wedi mynd i’r afael yn ddigonol ag effaith negyddol y pandemig ar hawliau plant, nac wedi lliniaru’r effaith honno’n ddigonol (gweler ein blog blaenorol). Mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur ar blant, ac yn arbennig ar blant agored i niwed, ac effeithiwyd yn negyddol ar bob agwedd ar hawliau plant. Dyma un o ganfyddiadau ymchwil a wnaed ar ran y Rhwydwaith Ewropeaidd Ombwdsmyn Plant (ENOC). Roedd canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys nad ymgynghorwyd â phlant ar Fesurau Brys a gymerwyd gan lywodraethau mewn ymateb i’r pandemig, ac nad oedd camau a fyddai wedi golygu rhoi mwy o sylw i hawliau plant wedi cael eu cymryd.
Daeth yr ymchwil ar gyfer ENOC i’r casgliad y dylai llywodraethau fabwysiadu Dull Gweithredu sy’n Canolbwyntio ar Hawliau Plant ar gyfer pob Argyfwng Cyhoeddus; mae hyn yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd presennol. Rhaid dysgu gwersi o bandemig Covid-19. Rhaid i lywodraethau yn Uwchgynhadledd Hinsawdd COP26 ddeall na ddylai hawliau plant fod yn ôl-ystyriaeth ac y dylid eu blaenoriaethu mewn unrhyw ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Pan fydd Cynulliad Iechyd y Byd yn trafod datblygu Cytundeb Rhyngwladol ar y Pandemig yn ddiweddarach y mis hwn, rhaid iddo ddysgu o bandemig Covid-19 a chymryd hawliau plant i ystyriaeth wrth ddatblygu’r cytundeb.
Rydym angen dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar Hawliau Plant yng nghyswllt argyfyngau cyhoeddus byd-eang.
Rhaid i bob sefydliad rhyngwladol ac Ewropeaidd, Gwladwriaethau, llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol a phob awdurdod lleol neu fwrdeistrefol a phob awdurdod perthnasol arall, barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau plant bob amser, gan gynnwys yn ystod argyfwng cyhoeddus. Dylent i gyd sicrhau eu bod yn mabwysiadu 5 egwyddor Dull Gweithredu yn Canolbwyntio ar Hawliau Plant:
• Gwreiddio Hawliau Plant: Ymgorffori hawliau plant mewn penderfyniadau deddfwriaethol, polisi a chyllidebol, a phob cam gweithredu, fel bod hawliau plant yn cael blaenoriaeth bob amser, gan gynnwys yn ystod argyfwng cyhoeddus.
• Cydraddoldeb a Pheidio â Gwahaniaethu: Sicrhau nad yw penderfyniadau a gweithredoedd ar bob lefel yn gwahaniaethu’n niweidiol yn erbyn plant a/neu grwpiau penodol o blant (a chenedlaethau’r dyfodol) ar unrhyw adeg, gan gynnwys yn ystod argyfwng cyhoeddus.
• Grymuso Plant: Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth plant o’u hawliau, drwy addysg a gwybodaeth fel y gall plant ymarfer a manteisio ar eu hawliau, gan gynnwys yn ystod argyfwng cyhoeddus.
• Cyfranogiad Plant mewn Gwneud Penderfyniadau: Sicrhau bod barn plant yn cael ei chlywed a’i hystyried yn briodol mewn unrhyw broses gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, fel bod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried yn llawn yn ystod argyfwng cyhoeddus.
• Atebolrwydd i Blant: Sicrhau bod y llywodraeth ar bob lefel a sefydliadau cyhoeddus yn atebol am y modd y maent yn cydymffurfio â hawliau plant bob amser, gan gynnwys yn ystod argyfwng cyhoeddus.
Gallwch ddarllen rhagor am y Dull Gweithredu yn Canolbwyntio ar Hawliau Plant ac argyfyngau cyhoeddus yma.
Gallwch ddarganfod rhagor am y Dull Gweithredu yn Canolbwyntio ar Hawliau Plant a ddatblygwyd gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, yma.
Authors:
Dr Rhian Croke is an Independent Children’s Rights Adviser and an affiliate of the Observatory on the Human Rights of Children