Mae Llywodraeth y DU yn newid y cyfreithiau ysgariad yng Nghymru a Lloegr fel y bydd llai o anghydfod rhwng cyplau nad ydyn nhw eisiau bod yn briod mwyach.  Nid ydym ni’n gwybod eto yn fanwl beth fydd y cyfreithiau newydd, ond mae ymgynghoriad diweddar a wahoddodd pobl i roi eu barn ynglŷn â’u cynigion yn rhoi syniad inni ynglŷn â beth a fydd yn cael ei gynnwys yn y cyfreithiau newydd.

Beth yw’r gyfraith bresennol ynglŷn ag ysgariad?

Ysgariad yw’r broses gyfreithiol fwyaf cyffredin a ddefnyddir i roi terfyn ar briodas.  Mae’n cael ei alw yn ‘ddiddymiad’ pan yr ydym yn sôn am bartneriaeth.  Yn y blog hwn, lle’r ydym wedi defnyddio gair ‘priodas’ ac ‘ysgariad’, mae’n cynnwys ‘partneriaethau sifil’ a ‘diddymiad’.

Er mwyn cael ysgariad, mae’n rhaid i un ai’r gŵr neu’r wraig ddangos bod y briodas ‘wedi chwalu’n anadferadwy’ – na all y cwpl adfer eu perthynas.  Mae’n rhaid iddo ef neu hi brofi un o bump o bethau:

  • ‘Ymddygiad afresymol’ gan yr unigolyn arall, sy’n ei gwneud yn anodd i’r unigolyn sy’n gofyn am yr ysgariad fyw gydag ef neu hi
  • ‘Encilio’ gan yr unigolyn arall (pan mae ef neu hi wedi gadael, gyda’r bwriad o beidio â dod yn ôl)
  • ‘Godineb’ gan yr unigolyn arall – pan mae ef neu hi yn cael rhyw gyda rhywun arall
  • Byw ar wahân am ddwy flynedd a bod y ddau yn cytuno i ysgaru
  • Byw ar wahân am bum mlynedd.

Ambell waith, gall un neu fwy o’r pethau hyn ddigwydd, ond nid oes ysgariad oherwydd bod yr unigolyn a allai ofyn am ysgariad yn dewis peidio â gwneud hynny.  Ar y funud, oherwydd y ffordd mae ‘godineb’ yn cael ei ddiffinio, ni ellir defnyddio hyn i gael ysgariad o berthynas un rhyw, neu ddiddymu partneriaeth sifil.  Os yw un o’r partneriaid yn y briodas un rhyw, neu’r bartneriaeth sifil yn anffyddlon, gallen nhw ddadlau bod hyn yn ‘ymddygiad afresymol’.

Beth yw’r problemau gyda chyfreithiau ysgaru ar gyfer plant?

Ar y funud, mae’r cyfreithiau ynglŷn ag ysgariad yn dyddio’n ôl i 1973, at gyfraith o’r enw Deddf Achosion Priodasol.  Mae’r gyfraith bron yn 60 mlwydd oed, a bu llawer o newidiadau mewn cymdeithas ac ynglŷn â sut yr ydym yn meddwl am deuluoedd a pherthnasau teuluol.  Yn ogystal, rydym wedi dechrau deall llawer mwy ynglŷn â sut mae ysgariad yn effeithio ar blant sydd ynghlwm â’r mater.   Awgrymodd ymchwil[1] a wnaed mor gynnar â 1995 tra y bydd ysgariad a gwahanu yn cael effaith ar y plant sydd ynghlwm â’r mater, yr anghydfod rhwng rhieni sy’n llawer mwy niweidiol na’r gwahanu ei hun.

Hyd yn oed os yw’r ddau unigolyn eisiau ysgaru, bydd un o’r cwpl rhan amlaf yn gofyn am ysgariad ar sail ymddygiad afresymol, oherwydd y bydden nhw’n gorfod disgwyl am ddwy flynedd i gael ysgariad.   Drwy orfodi un o’r cwpl wneud honiadau a darparu tystiolaeth ynglŷn ag ymddygiad y llall, mae’n creu anghydfod lle nad oes angen iddo fodoli.  Mae’r ‘bai’ hwn yn gallu gwneud cyplau yn llawer mwy pryderus a gofidus, sydd yn ei dro, yn gallu bod y rhan waethaf o’r ysgariad i’r plant sydd ynghlwm â’r mater.  Mae’n ei wneud yn llawer mwy anodd i rieni weithio gyda’i gilydd i benderfynu ar drefniadau byw ac mae’n gallu gwneud gwyliau, a phethau fel pen-blwyddi a’r Nadolig yn fwy anodd hefyd.

Er y gall disgwyl am ddwy flynedd i gael ysgariad osgoi bai ac anghydfod, gall hyn fod yn anodd i gyplau sy’n dymuno ysgaru, yn arbennig felly os nad yw un ohonyn nhw’n gallu fforddio i symud allan.  Hefyd, mae’n rhoi stop ar bobl i symud ymlaen â’u bywydau.

Gall rhannau eraill o gyfreithiau ysgaru achosi problemau hefyd – er enghraifft, mae gan yr unigolyn sydd heb ofyn am yr ysgariad yr hawl awtomatig i wrthwynebu’r ysgariad.  Pan mae hyn yn digwydd, mae’n cael ei alw yn ‘ysgariad a ymleddir’.   Mae rhai pobl yn defnyddio eu hawl i wrthwynebu’r ysgariad i weithredu’n annheg tuag at yr unigolyn arall.  Gallan nhw ei defnyddio i roi pwysau ar yr unigolyn sydd eisiau’r ysgariad i gytuno â rhywbeth arall drwy fygwth gwrthwynebu’r ysgariad os nad ydyn nhw’n cytuno.

Pa hawliau sydd gennych chi os yw eich rhieni chi’n ysgaru?

Pan mae eu rhieni yn gwahanu, mae llawer o blant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu ac nad yw eu barn nhw yn cael ei hystyried.  Os ydych chi yn y sefyllfa hon, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhoi hawliau i blant a phobl ifanc sy’n golygu:

  • bod gennych chi’r hawl i gael gwybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd a chael clywed eich llais mewn unrhyw broses a fydd yn penderfynu pethau ynglŷn â lle y byddwch chi’n byw a chyda pwy y byddwch chi’n byw os yw eich rhieni yn ysgaru. Gall hyn gael ei wneud drwy CAFCASS Cymru, sy’n gweithredu i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed yn y llysoedd teulu yng Nghymru.
  • bod gennych chi’r hawl i gynnal cysylltiad â phob un o’ch rhieni, os ydych chi eisiau.
  • y dylai penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch chi gael eu gwneud yn eich ‘budd pennaf’.

Sut fydd y cyfreithiau ysgaru newydd yn well i blant?

Yng Nghymru, mae ymrwymiad i ystyried hawliau plant wrth galon pob cyfraith newydd.  Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud yr un ymrwymiad cyffredinol i hawliau plant, ond mae’r cynigion newydd ynghylch ysgariad yn cydnabod nad yw buddiannau plant yn cael eu gwarchod o dan y rheolau ysgaru presennol, ac mae angen newid hyn.  Gobaith Llywodraeth y DU yw y bydd y cynigion ar gyfer cyfreithiau newydd yn lleihau anghydfod mewn teuluoedd.

Tra nad ydym yn gwybod manylion y cyfreithiau ysgaru newydd, rydym yn gwybod beth oedd Llywodraeth y DU yn ei gynnig ym mis Medi pan gyhoeddodd yr ymgynghoriad.

  • Bydd rhywun sydd eisiau ysgariad yn gallu gwneud hynny oherwydd bod eu priodas wedi chwalu’n anadferadwy yn unig.
  • Fodd bynnag, yn lle gorfod rhoi rheswm pan mae’r briodas wedi chwalu, bydd angen i’r unigolyn neu’r cwpl roi hysbysiad yn unig bod y briodas wedi chwalu.
  • Byddai lleiafswm cyfnod cyn y gallai’r ysgariad gael ei ffurfioli, a allai roi amser i bobl wneud yr holl drefniadau sydd eu hangen cyn bod y briodas yn dod i ben yn gyfreithiol.
  • Ni fyddai unrhyw hawl awtomatig i wrthwynebu’r ysgariad.

Pam na all Cymru gael ei chyfreithiau ysgaru ei hun?

Er bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr yn gallu gwneud ei gyfreithiau ei hun mewn rhai meysydd bywyd yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi cadw’r pwerau i wneud cyfreithiau ar gyfer Cymru mewn meysydd eraill.  Yn y maes ‘Cyfiawnder’, mae Llywodraeth y DU wedi cadw pwerau dros berthnasau teuluol, ac felly ni all Cymru wneud ei chyfreithiau ei hun ynglŷn ag ysgariad.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn awr fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ystyried yr holl ymatebion y mae wedi’u derbyn i’r cwestiynau a ofynnodd yn yr ymgynghoriad.  Unwaith y bydd wedi gwneud hyn, bydd yn cyhoeddi beth fydd yn gynwysedig yn y cyfreithiau ysgaru newydd a bydd yn dechrau ar y broses o lunio cyfreithiau newydd.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau os ydych chi’n byw yng Nghymru ac os yw eich rhieni yn ysgaru, darllenwch ein tudalennau ynglŷn â sut mae’r gyfraith yn effeithio chi arnoch chi yn eich cartref.

 

 

[1] Papur Gwyn  Looking to the Future: Mediation and the Ground for Divorce https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/272042/2799.pdf