Rhybudd sbarduno: hunanladdiad, iselder
Oes gennych chi ddiddordeb mewn stori ddiddorol, gyda darlun realistig o faterion iechyd meddwl? Yna, fe ddylech chi ddarllen Orange
Manga Japaneaidd yw Orange, wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan Ichigo Takano. Mae’r manga, a leolir yn Matsumoto, yn dilyn bywyd Naho Takamiya, myfyriwr ysgol uwchradd ail flwyddyn, sy’n derbyn llythyrau dirgel a anfonwyd ganddi hi ei hun 10 mlynedd yn y dyfodol. Mae’r llythyrau yn gofyn iddi rwystro’r “pethau mae hi’n eu hedifarhau fwyaf” mewn bywyd, gydag un ohonyn nhw’n ymwneud â Kakeru Naruse, myfyriwr sydd newydd drosglwyddo o Tokyo. Os byddai’n well gennych chi wylio Orange, mae’r manga hefyd wedi cael ei addasu’n ffilm, a chyfres o anime.
Iechyd Meddwl yn Oren
Mae’r digwyddiadau yn y manga yn dangos pwysigrwydd cynnal iechyd meddwl da. Yn nes ymlaen yn y stori, datgelwyd mai hunanladdiad ei fam oedd yn gyfrifol am absenoldeb Kakeru o’r ysgol (y diwrnod ar ôl iddo gofrestru). Roedd gan Kakeru deimladau cryf iawn o euogrwydd, a chyfrifoldeb am ei marwolaeth; gan gredu bod ei salwch meddwl terfynol wedi digwydd oherwydd ei fod ef wedi ei gadael a mynd gyda’i ffrindiau, a pheidio â mynd â hi i’r ysbyty ar ddiwrnod y cofrestru (fel yr oedd wedi addo).
Drwy gydol y stori, rydyn ni’n cael cipolwg ar ddirywiad iechyd meddwl Kakeru, sy’n awgrymu ei iselder. Ar linell amser arall (lle ysgrifennodd Naho’r llythyrau ei hun yn y dyfodol), arweiniodd iselder Kakeru at hunanladdiad. Rhaid parchu hawliau plant yng Nghymru. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Yn ôl erthygl 24 UNCRC, mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael iechyd da a mynediad at ofal iechyd. Mae hyn yn golygu y dylai ysgol a meddygon Kakeru fod wedi darparu gwasanaethau a chymorth i helpu plant sy’n profi problemau iechyd meddwl. Gallwch hefyd ddysgu mwy am eich hawliau yma.
Fel y dangoswyd gan y manga, gall teimladau o iselder fod yn llethol iawn i berson ifanc ddelio â nhw, ac mae Adroddiad Ystadegau Hunanladdiad y Samariaid wedi canfod cynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad ymysg pobl ifanc o dan 25 oed, yng Nghymru a Lloegr, yn 2019.
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, gallwch siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel teulu neu ffrindiau. Hefyd, gallwch siarad â’ch meddyg teulu. Ceir llawer o adnoddau a mudiadau sy’n rhoi cymorth i’r rheini sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, er enghraifft: Y Samariaid (ffôn 116 123), Childline (ffoniwch 0800 1111), a YoungMinds Crisis Messenger (anfonwch y gair “YM” mewn neges destun i 85258).
Os ydych chi’n berson ifanc mewn profedigaeth, fel Kakeru (wedi dioddef marwolaeth aelod o’r teulu neu ffrind), gallwch hefyd ofyn am gymorth gan sefydliadau fel Child Bereavement UK (ffoniwch 0800 028 8840). Yn ôl y Rhwydwaith Profedigaeth Plant (NCB), amcangyfrifwyd bod 41000 o blant o dan 18 oed wedi colli rhiant yn 2015.
Bwlio yn Orange
Yn sgil cenfigen, mae Naho yn cael ei fwlio yn yr ysgol gan gyd-fyfyriwr, Rio Ueda. Mae un o’r ffyrdd y mae Rio yn bwlio Naho, yn cynnwys ei gwthio’n fwriadol ar y llawr. Mae Erthygl 4 UNCRC yn datgan bod yn rhaid i’r wladwriaeth wneud popeth o fewn ei gallu i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant, yn unol â’r Confensiwn; ac mae un o’r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i ddysgu a mynd i’r ysgol (UNCRC, erthygl 28), sy’n gallu bod yn anodd pan fyddwch yn cael eich bwlio. Mae adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn datgan y dylai fod gan ysgolion fesurau ar waith i annog ymddygiad da a pharch at eraill, ac i atal pob math o fwlio ymysg disgyblion. Dylai fod gan ysgol Naho reolau i atal bwlio ymysg y disgyblion.
Gall bwlio ddigwydd i unrhyw un, ac mae’n brofiad ofnadwy, gan y gall gael effaith negyddol iawn ar eich llesiant meddyliol. Mae rhai o effeithiau meddyliol bwlio yn cynnwys: gorbryder, iselder, meddyliau a theimladau hunanladdol (Bainbridge, Ross a Woodhouse, 2017). Yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan yr elusen ‘Ditch the Label’, dywedodd 33% o’r bobl ifanc a ddywedodd eu bod yn cael eu bwlio eu bod wedi meddwl am ladd eu hunain, ac roedd 41% yn teimlo’n bryderus wedyn.
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich bwlio, dylech siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel: teulu, ffrindiau, neu athro. Os ydych chi’n mynd i’r ysgol uwchradd, dylai fod yna wasanaeth cwnsela annibynnol ar y safle. Dylai Naho fod wedi gallu siarad â’i hathro neu wasanaeth cwnsela annibynnol. Gallwch hefyd gysylltu â mudiadau sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth, fel y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwlio (ffôn 0300 323 0169). Yn dibynnu ar sut rydych yn cael eich bwlio, efallai y bydd yr ysgol yn cysylltu â’ch rhieni, neu’r heddlu (gan fod y bwli efallai’n torri’r gyfraith); er enghraifft, dylid cysylltu â’r heddlu os ymosodwyd arnoch yn rhywiol neu os cawsoch eich bwlio oherwydd eich hil, eich hunaniaeth rywiol neu’ch anabledd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwlio.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am fwlio neu gael eich trin yn annheg yma.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am bynciau eraill, a allai fod gennych chi gwestiynau amdanyn nhw, yn sicr dylech ddarllen a chadw llygad am flogiau o’r gyfres ‘Darllen fy Hawliau’
Gair am yr awdur
Fy enw i yw Janeava Sterling. Graddiais yn ddiweddar o Brifysgol Abertawe, gyda gradd LLB y Gyfraith. Rwy’n gobeithio bod yn gyfreithiwr llwyddiannus sy’n ymarfer. Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd yn gwylio anime ac yn darllen manga. Mwynheais ysgrifennu’r blog hwn gan ei fod wedi caniatáu i mi gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol i’m diddordeb.
