Mae lefelau tlodi plant yn cynyddu. Mae tlodi’n llawer mwy na diffyg bwyd, ond un arwydd amlwg ei fod yn gwaethygu yw’r cynnydd yn nifer y plant sydd angen cymorth gan y Llywodraeth ac elusennau er mwyn cael digon o fwyd i’w fwyta. Y llynedd, dyrannodd y rhwydwaith banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell nifer siomedig, sef 54,000 o barseli bwyd brys i blant yr oedd eu teuluoedd mewn tlodi, nad oedd yn gallu fforddio eu bwydo mwyach. Bellach, mae dros 100,000 o blant (mwy nag un ym mhob 4 disgybl) yn dibynnu ar brydau ysgol am ddim – cynnydd o 37% ers blwyddyn ysgol 2018/19.

Noda Erthygl 27 o’r UNCRC bod gan bob plentyn hawl i safon o fyw sy’n addas ar gyfer eu datblygiad delfrydol, a bod rhaid i bartion y wlad gynorthwyo eu rhieni neu ofalwyr i weithredu’r hawl hon. Yn ymarferol, os na all gofalwr plentyn roi’r safon fyw honno gan eu bod nhw mewn tlodi, fel arfer dylai llywodraethau helpu i gynnal yr hawl hon drwy ddarparu amddiffyniad cymdeithasol, megis taliadau arian parod i’r teulu.

Mae hi’n well gan rai llywodraethau ddarparu adnoddau materol megis parseli bwyd i bobl, er mwyn eu helpu nhw i gydnabod yr hawl hon. Fodd bynnag, mae’r Child Poverty Action Group, fel llawer o ymgyrchwyr eraill, o’r farn nad yw bwyd yn ei hun yn ddatrysiad da i ansicrwydd bwyd. Nid yw cymorth bwyd yn unig yn mynd i’r afael â’r achosion ategol o ansicrwydd bwyd, sy’n bennaf yn broblem o ran incwm annigonol. Nid yw hefyd yn caniatáu i hawl y derbynnydd i urddas gael ei bodloni’n llawn, oherwydd mae’n dileu ei allu i gaffael bwyd mewn ffordd nad yw’n achosi stigma, ac i gael dewis dros beth maen nhw’n ei fwyta. Nid yw goroesi ar gymorth bwyd brys yn ddatrysiad hirdymor; fel y dywedodd plentyn yn ymateb i archwiliad yr Alban ar fancio bwyd ac ansicrwydd bwyd ymysg plant, “Mae byw’n bwysicach na goroesi <https://cypcs.org.uk/wpcypcs/wp-content/uploads/2020/02/living-more-important-than-surviving.pdf>

Fel arfer, ni all Llywodraeth Cymru wneud taliadau uniongyrchol i deuluoedd, oherwydd mae’r rhan fwyaf o bwerau dros ddiogelwch cymdeithasol yn rhai sy’n berthnasol i San Steffan. Mae hyn yn golygu, os yw teulu’n ei chael hi’n anodd, fel arfer mae Llywodraeth Cymru yn gorfod eu helpu nhw drwy bolisïau eraill megis prydau ysgol am ddim a’r Rhaglen Gyfoethogi yn ystod Gwyliau’r Ysgol. Mae ei strategaeth dlodi bwyd hefyd yn darparu cyllid <https://media.service.gov.wales/news/gbp-1-9m-to-address-food-poverty-in-welsh-communities> i sefydliadau elusennol sy’n cyflenwi parseli bwyd brys, neu sy’n ailddyrannu gwastraff bwyd.

Felly, mae prydau ysgol am ddim yn rhan bwysig o sut mae Llywodraeth Cymru’n helpu plant mewn tlodi i gael mynediad i safon fyw ddigonol. Mae rheoliadau statudol yn nodi bod rhaid i’r bwyd sy’n cael ei ddarparu fod yn faethlon, ac annog plant a phobl ifanc i ddatblygu “tueddiadau bwyta’n iach”. Maent hefyd yn rheoleiddio’r ffordd y dylai darparwyr arlwyo bwyd fodloni anghenion plant â gofynion dietegol penodol, er enghraifft oherwydd cyflyrau meddygol megis alergeddau, neu oherwydd crefydd neu gred plentyn.

Pan fydd Ymarferwyr ar ein prosiect Pris Diwrnod Ysgol yn ‘diogelu rhag tlodi’ mewn ysgolion, maent bob amser yn gofyn i blant a phobl ifanc am eu barn ar y prydau ysgol. Mae gennym ddiddordeb yn yr opsiynau sydd ar gael, sut cânt eu gweini, ac os yw’r holl ddisgyblion yn cael yr un ystod o ddewis. Pan fydd plant yn dod â bwyd i mewn i’r ysgol o gartref, hoffem wybod a oes modd iddynt fwyta ochr yn ochr â’u ffrindiau sydd o bosibl ond yn gallu cael pryd ysgol am ddim.

Er bod y rheoliadau’n gwahardd ysgolion rhag adnabod yn gyhoeddus pa ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, gall y ffordd y caiff y bwyd hynny ei weini ei gwneud hi’n amlwg pwy sy’n derbyn cymorth gan y wlad. Mae llawer o blant yn dweud wrthym nad yw eu lwfans pryd ysgol am ddim dyddiol yn ddigon ar gyfer pryd bwyd a diod, neu fod angen iddynt beidio â chael pryd llawn yn ystod amser cinio os ydynt yn dewis prynu rhywbeth i’w fwyta yn ystod egwyl y bore. Mae’r ffordd y caiff dyledion pres cinio eu trin hefyd yn gallu amlygu pa deuluoedd sydd â thrafferthion ariannol, er enghraifft drwy rannu llythyrau dyledion o flaen y dosbarth.

Rydym yn aml yn gweld arfer da o ran prydau ysgol, sy’n sicrhau nad yw plant mewn tlodi’n dioddef stigma neu’n methu â gallu mwynhau’r agwedd gymdeithasol ar fwyta gyda’i ffrindiau. Yn aml, mae staff arlwyo ysgol yn dangos trugaredd mawr ac yn ofalus iawn o ran anghenion y plant yn eu hysgol. Maent yn defnyddio dulliau creadigol a hyblyg i sicrhau eu bod nhw’n bodloni anghenion dietegol crefyddol a meddygol pob dysgwr, a bod pob plentyn mewn tlodi (gan gynnwys y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim) yn cael ymuno a bwyto bwyd maent yn ei fwynhau. Dywedodd un cogydd ysgol wrthym:

“Os yw rhywun yn dod i’r ysgol yn hwyr ac wedi colli’r clwb brecwast, neu heb gael brecwast, bydd yr athro yn dod i lawr ac yn gofyn a oes modd i mi roi darn o dost. Bydden i’n casáu meddwl am rywun yn gorfod mynd yn llwglyd. Nid oes gan un plentyn lawer gartref, felly rwy’n gwneud brechdan iddo yn nes ymlaen yn y prynhawn cyn mynd adref, fel fy mod yn gwybod ei fod wedi cael rhywbeth arall i’w fwyta’r diwrnod hwnnw.” 

Yn ei hanfod, mae tlodi’n deillio o ddiffyg adnoddau ariannol i fodloni safon fyw sylfaenol, yn berthnasol i’r hyn sy’n gyffredin mewn cymdeithas. Nod ymatebion sy’n parchu hawliau i dlodi yw nid yn unig mynd i’r afael ag anghenion materol, ond hefyd sicrhau nad yw derbynyddion cymorth yn profi unrhyw stigma neu arwahanu pan fyddant yn cael cymorth. Mae hyn yn golygu rhoi urddas dewis i bob plentyn ynghylch beth mae’n ei fwyta, parchu a chynnal eu gwerthoedd moesegol o ran bwyd, a sicrhau nad ydynt yn cael eu hadnabod fel rhai sy’n dlotach na’u cyfoedion.

 

Gwybodaeth am yr Awdur

Ellie yw Rheolwr Datblygu Cymru yn Child Poverty Action Group. Mae’n rheoli prosiect Pris Diwrnod Ysgol y DU ledled y wlad, sydd â’r nod o greu system addysg fwy teg i blant mewn tlodi.