Meddwl am Genedlaethau’r Dyfodol

Meddwl am Genedlaethau’r Dyfodol

Gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddarparu fframwaith cyfreithiol a fydd yn gorfodi gwleidyddion i feddwl am ddyfodol hirdymor Cymru, yn hytrach nag a fyddan nhw’n cael eu hailethol yn yr etholiad nesaf ai peidio.

Rydym yn siarad llawer am y dyfodol – a sut bydd pethau sy’n digwydd heddiw yn effeithio arno. Mae newid hinsawdd yn debygol o gael effaith enfawr ar y dyfodol. Mae Brexit yn fater enfawr arall i Gymru a’r DU. Bydd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud heddiw yn effeithio ar ein dyfodol a dyfodol ein plant a’n hwyrion. Mae ein gwleidyddion, y bobl sy’n rhedeg y wlad, yn aml yn sôn am y dyfodol, ond mae’r ffordd mae ein system etholiadol yn gweithio (yn y DU ac yng Nghymru) yn golygu, yn aml iawn, eu bod ond yn edrych mor bell â’r etholiad nesaf ac a fyddan nhw’n ennill eto ai peidio. Felly sut gallwn ni gael y bobl sydd â chyfrifoldeb i feddwl o ddifri am y dyfodol? Sut rydym ni’n sicrhau ein bod yn ystyried effaith y penderfyniadau a wneir heddiw ar genedlaethau’r dyfodol?

Gwneud pethau’n wahanol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai sialensiau mawr sy’n wynebu Cymru, ac wedi penderfynu bod angen gwneud pethau’n wahanol. Bydd sialensiau sy’n deillio o faterion byd-eang fel newid hinsawdd a beth sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r byd sy’n effeithio arnom, a sialensiau yng Nghymru fel tlodi, y ffaith bod pobl yn byw’n hirach, ac iechyd gwael i gyd yn cael effaith hirdymor ar Gymru. Ac nid yw atebion byr dymor yn ddigon.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu bod yn rhaid i 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddatblygu’n gynaliadwy gyda’r nod o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i’r cyrff cyhoeddus greu amcanion datblygu cynaliadwy sy’n cyfrannu at 7 nod hirdymor ar gyfer Cymru. Y nodau hyn yw:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae’r cyrff cyhoeddus sydd â’r ddyletswydd hon yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol yng Nghymru, byrddau iechyd lleol a’r GIG, gwasanaethau Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ogystal â chreu amcanion datblygu cynaliadwy sy’n cyfrannu at y 7 nod llesiant, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried 5 peth i ddangos eu bod wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sef:

  • Hirdymor
  • Atal
  • Integreiddio
  • Cydweithio
  • Cynnwys

Yn hytrach na chymryd ‘agwedd byr dymor’, y syniad yw bod angen i gyrff cyhoeddus gymryd agwedd tymor hwy, a chynnwys pobl fel nad oes ganddyn nhw wasanaethau ‘sydd wedi’u gorfodi arnyn nhw’ – mae pobl yn cymryd rhan weithredol yn eu bywydau a sut maen nhw’n rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus.

Beth mae pobl yn ei ddweud am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae rhai pobl wedi bod yn feirniadol o’r Ddeddf, neu wedi pwysleisio sut gall y nodau llesiant wrth-ddweud ei gilydd ar brydiau. Pan oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried y Ddeddf yn y lle cyntaf, cynhyrchodd gynllun datblygu cynaliadwy a oedd yn amlinellu gweledigaeth llawer cryfach o ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn credu bod y Ddeddf yn llai pwerus na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae rhai hefyd wedi awgrymu nad yw’n ddigon clir – er enghraifft pwy yw ‘cenedlaethau’r dyfodol’?

Cafwyd rhai enghreifftiau penodol hefyd lle mae’n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y nodau llesiant. Un enghraifft y mae pobl yn sôn amdani yw’r cynllun i adeiladu darn newydd o draffordd ar hyd yr M4 i leihau tagfeydd yn Nhwneli Bryn-glas. Er y gallai hyn wella ffyniant i Gymru, efallai na fydd yn cefnogi’r nod llesiant o gael Cymru ‘sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ oherwydd effaith amgylcheddol y ffordd newydd.

Er bod yna feirniadaeth, bu llawer o sylwadau positif hefyd am y Ddeddf a’r gwaith sy’n cael ei wneud i edrych i’r tymor hwy gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae enghreifftiau eisoes o sefydliadau’n cydweithio, er enghraifft yn Rhondda Cynon Taf lle mae sefydliadau wedi cydweithio i atal tanau gwyllt yn y Cymoedd; a menter Iechyd Cyhoeddus Cymru a ailwampiodd ei swyddfeydd drwy ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl. Un o’r pethau allweddol a fydd yn gwneud y Ddeddf yn llwyddiant yn ymarferol yw rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gallu ymchwilio i’r hyn y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud a’u henwi os yw’n credu nad ydyn nhw’n  gweithredu yn unol â’r Ddeddf.

Yn ddiweddar, rhoddodd un o athrawon Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard Owen, ddarlith am y Ddeddf. Gallwch ddarllen mwy amdani fan hyn. Hoffem glywed eich barn – beth yw eich barn chi am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)? Rhowch sylwadau ar ein blog, neu ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol os oes gennych gyfrif Facebook neu Twitter.

Gadael Ymateb