Cyngor Ysgol, Ysgol Gyfun Y Coed Duon 2017-18

Addysg / gweithgareddau hamdden / diwylliannol (gan gynnwys ysgol, hyfforddiant, sgiliau a chyflogadwyedd) · Gwybodaeth am hawliau / CCUHP · Hawliau sifil a rhyddid (yn cynnwys hunaniaeth, gwybodaeth, preifatrwydd / delwedd, rhyddid i ymgysylltu, cyfarfod, meddwl, cydwybod a chrefydd, peidio â gwahaniaethu a rhwymedïau) · Themâu CCUHP

PY: Beth allwn ni ei wneud i wella profiad gwaith i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd?

Dulliau: Arolwg ar-lein: disgyblion trwy’r ysgol ran yn cymryd rhan yn ystod gwersi TGCh.

Canfyddiadau:

  • Mae 98% o ddisgyblion eisiau’r cyfle i gymryd rhan mewn profiad gwaith gyda 92% eisiau gwneud eu dewisiadau eu hunain
  • Mae mwyafrif y disgyblion eisiau profiad gwaith ym Mlynyddoedd 9, 10 ac 11
  • Mae 99% o ddisgyblion o’r farn bod profiad gwaith yn fuddiol: profiad o awyrgylch gwaith bywyd go iawn; yn helpu fy newisiadau TGAU; yn helpu i wneud dewisiadau gwybodus am fy ngyrfa
  • Byddai’n well gan 62% o ddisgyblion dreulio profiad gwaith dros gyfnod o wythnos neu o leiaf 2-3 diwrnod mewn gweithle
  • Mynegodd y disgyblion ddiddordeb mewn profiad gwaith trwy weithdai, cyrsiau, diwrnodau blasu gwaith, diwrnodau Coleg a Phrifysgol
  • O fewn meysydd pwnc eraill, hoffai disgyblion ddysgu llawer mwy am; dalu trethi; ceisio am swydd, ysgrifennu ceisiadau, chwilio gwefannau swyddi, cyfweliadau, ysgrifennu CV; talu biliau a chyllidebu; gwneud cais am ddogfennau bywyd go iawn fel pasbort, trwydded yrru, yswiriannau; bancio yn ymwneud â morgeisi, cynilion a sefydlu eich cyfrif banc eich hun.

Canlyniadau / Effaith

  • Rhannwyd yr ymchwil gyda’r Uwch Dîm Rheoli Ysgol Gyfun y Coed Duon gan arwain at gytundeb ag Uwch Reolwyr i alluogi hyn yn y cwricwlwm, trwy sefydlu: 1. Wythnos Datblygu Sgiliau; 2. Her Menter a Sgiliau ar gyfer pob grŵp blwyddyn; 3. Diwrnodau Trochi ar gyfer Datblygu Sgiliau.
  • Rhannu a bwydo canlyniadau ac argymhellion ymchwil gyda disgyblion, athrawon, Llywodraethwyr Ysgol a Rhieni
  • Ysgol y Coed Duon i gysylltu â’r Cyfnewidfa Busnes Addysg a thimau ymgysylltu i helpu i sefydlu cyfleoedd profiad gwaith
  • Cofrestru ar gyfer rhaglenni diwrnodau blasu Prifysgol Abertawe sy’n cynnig cyfleoedd ar draws colegau
  • Disgyblion yn rhoi adborth ar ddyluniad Tudalen We Canolfan Gyfreithiol y Plant
  • Mynychodd y disgyblion ddigwyddiad Democratiaeth Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe yn y Senedd. Fe wnaethant rannu eu hymchwil gyda’r Gweinidog Plant, Huw Irancca Davies, a Chadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Lynne Neagle, yn ogystal â gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol eraill a fynychodd y digwyddiad