Ar wythnos Iechyd Meddwl y Byd, ystyriwn y berthynas rhwng profiad plant a phobl ifanc o dlodi bwyd yng Nghymru, ac iechyd meddwl. Mae’r hawliau i gyd yn gysylltiedig ac yn perthyn i’w gilydd. Pa effaith allai peidio â chael hawl i ddigon o fwyd ei gael ar eich hawl i iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl? Darllenwch ein blog yma:

Iechyd meddwl a phrofiad pobl ifanc o dlodi bwyd yng Nghymru

 

Mae’r hawliau i gyd yn gysylltiedig ac yn perthyn i’w gilydd. Pa effaith allai peidio â chael hawl i ddigon o fwyd ei gael ar eich hawl i iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl?

Mae gennych hawl i fwyd fel rhan o’ch hawl i safon byw foddhaol. Mae eich safon byw’n cynnwys pethau fel yr hawl i ddigon o fwyd a llety boddhaol. Mae gennych hefyd hawl i iechyd ac mae gwasanaethau ar gael os oes angen cymorth arnoch:

Place 2 Be – Cymorth Iechyd Meddwl i Rai Dan 18 Oed

Hafal – Cymorth gan Hafal

Young Minds – Fy Nheimladau

Childline – Gofynnwch am Gymorth

The Mix – Gofynnwch am Gymorth

Gall unrhyw un brofi tlodi bwyd neu salwch meddwl yn eu bywyd. Mae mwy o bobl yn profi tlodi bwyd oherwydd pandemig Covid-19, sydd wedi effeithio ar waith ac incwm llawer o bobl yng Nghymru. Cafodd y cysylltiad rhwng pandemig Covid-19 a lles meddwl pobl ifanc hefyd ei amlygu yn yr adroddiad Yr Argyfwng Iechyd Meddwl: Sut y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar ein hiechyd meddwl? a gyhoeddwyd gan Mind Cymru. Yn ôl yr arolwg, dywedodd dri chwarter y bobl ifanc fod eu hiechyd meddwl yn waeth ym misoedd cyntaf y pandemig, gyda thraean o’r bobl ifanc a geisiodd dderbyn cymorth yn dweud eu bod wedi methu â gwneud hynny.

Mae llawer o gysylltiadau rhwng eich profiad o dlodi bwyd a’ch iechyd meddwl.

  • Gall peidio â chael digon i’w fwyta, neu fwyd o ansawdd gwael, effeithio ar eich hwyliau a bydd efallai’n anoddach i chi ganolbwyntio yn eich gwersi yn yr ysgol.
  • Gall peidio â gwybod o ble y daw eich pryd o fwyd nesaf, ac a fydd yn ddigon, greu teimladau o straen a gorboeni.
  • Gall y stigma sy’n gysylltiedig â thlodi a phrydau ysgol am ddim effeithio ar eich iechyd meddwl drwy wneud i chi deimlo’n ynysig, dan straen a gyda chywilydd.
  • Os yw eich rhieni neu ofalwyr yn poeni am arian a gallu bwydo pawb, gallai wneud i chi boeni’n arw neu deimlo’n ddiymadferth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi egwyddorion yn ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gan gynnwys:

  • Blaenoriaethu buddsoddi mewn iechyd meddwl.
  • Blaenoriaethu ail-ddylunio gwasanaethau i wella atal, delio â stigma a hyrwyddo dull ‘dim drws anghywir’ o ddarparu cymorth iechyd meddwl.
  • Cyflwyno gwasanaethau ‘mewngymorth’ iechyd meddwl i bobl ifanc mewn ysgolion ar draws Cymru.

Rhoddir mwy o fanylion am blant a thlodi bwyd yng Nghymru yma, gan gynnwys sut i gael gafael ar wasanaethau cymorth neu fwyd.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi gwneud llawer iawn o waith ar gymorth emosiynol ac iechyd meddwl, gyda mwy o fanylion ar gael yma.

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru’n dechrau prosiect ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch drwy e-bostio childrenslegalcentreforwales@swansea.ac.uk