Cefais fy nenu at waith cyfiawnder cymdeithasol fel dewis gyrfa oherwydd fy nghefndir fel plentyn mabwysiedig, yn ogystal â phrofiad gwaith yr oeddwn wedi ymgymryd ag ef yn swyddfa Comisiynydd Plant Cymru pan oeddwn yn 16 oed. Rwy’n frwd dros helpu eraill ac rwy’n dymuno cyfrannu’n sylweddol at gymdeithas well i blant.

Wrth astudio fy ngradd meistr a’m cwrs ymarfer y gyfraith yn Abertawe, llwyddais i gael interniaeth gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru. Yn ystod yr interniaeth hon y sylwais ar Justice First Fellowship (JFF) yn cael ei hysbysebu. Mae’r JFF yn rhaglen ddwy flynedd i gyfreithwyr dan hyfforddiant. Roedd hwn yn gyfle anhygoel i ddechrau fy ngyrfa ym maes cyfraith cyfiawnder cymdeithasol a hawliau plant, gyda’r gobaith ychwanegol o allu ymgyfreitha ym maes hawliau plant yng Nghymru.

 

Yn ystod eu contract hyfforddi dwy flynedd mae’n ofynnol i bob unigolyn sy’n rhan o’r rhaglen JFF i redeg prosiect sydd â’r nod o gynyddu mynediad at gyfiawnder. Dewisais ganolbwyntio ar sefydlu gwasanaeth cynghori cychwynnol cyntaf Cymru sy’n canolbwyntio ar bob mater sy’n ymwneud ag addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol, sefydliadau a gwasanaethau sy’n arbenigo yn y materion hyn, er mwyn dod i gytundeb ynghylch cwmpas y gwasanaeth y bydd Canolfan Gyfreithiol y Plant yn ei gynnig i ddarpar gleientiaid. Yn fy rôl fel y JFF presennol, byddaf yn arwain y gwasanaeth hwn – fel y bydd y JFFs yn y dyfodol.

Mae’n fraint i mi allu bod yn rhan o’r gwaith o sefydlu gwasanaeth o’r fath, yn enwedig gan fod galw mawr am gymorth cyfreithiol yn y meysydd hyn.

Mae’n rhoi boddhad mawr i mi fy mod i, fel JFF, yn gallu gwneud gwaith ystyrlon sy’n cael effaith wirioneddol ar fywydau plant. Rydw i hefyd yn teimlo’n lwcus bod y rôl hon ar gael, am y tro cyntaf, pan ddechreuais i ar fy ngyrfa gyfreithiol. Cyn hyn, nid oeddwn yn obeithiol o gwbl y byddwn yn dod o hyd i rôl fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol a fyddai’n cyflawni fy nymuniad i helpu eraill.

Yn ystod fy nghyfnod fel JFF, rwyf wedi cael cyfle i gylchdroi fy lleoliadau (mae’n ofynnol i gyfreithiwr dan hyfforddiant ymgymryd â nifer o ‘seddi’ neu leoliadau fel rhan o’u hyfforddiant). Roeddwn i’n gallu treulio amser mewn gwahanol sefydliadau a chwmnïau cyfreithiol. Er fy mod wedi mwynhau a dysgu yn yr holl leoliadau, fy hoff leoliad oedd yr amser a dreuliais gyda Chomisiynydd Plant Cymru, ac ar y pryd Sally Holland oedd honno. Roeddwn i’n teimlo fel pe bawn i wedi cwblhau’r cylch – mynd yn ôl i’r sefydliad a oedd yn cadarnhau fy angerdd dros hawliau plant. Sally oedd y comisiynydd pan es i ar brofiad gwaith yn 16 oed. Roedd y lleoliad yn gyfle i mi fyfyrio ar fy natblygiad ers y tro diwethaf i mi fod yno. Roedd fy amser yn y swyddfa yn gofiadwy ac roedd pob diwrnod yn wahanol. Roedd yn gyfle i mi gael profiadau gwahanol. Roeddent yn brofiadau gwahanol i’r rhai a gefais yn ystod fy nghyfnodau gyda chwmnïau cyfreithiol, e.e. ysgrifennu ymatebion i ymgynghoriadau, digwyddiadau cyfranogi ac yn y blaen.

Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan y bobl rydw i wedi gweithio gyda nhw – sy’n rhestr helaeth o arbenigwyr proffesiynol a phrofiadol ym maes hawliau plant – rydw i’n ddiolchgar fy mod i wedi cwrdd â nhw ac wedi gallu dysgu ganddyn nhw. Mae’r ehangder dysgu hwn yn rhywbeth nad oes gan lawer o gyfreithwyr dan hyfforddiant y cyfle i’w brofi. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus i elwa ar brofiad mentoriaid a goruchwylwyr gwych, nid yn unig pan oeddwn ar leoliad ac yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant (lle roeddwn wedi fy lleoli pan oeddwn yn JFF), ond hefyd gyda’r Sefydliad Addysg Cyfreithiol (LEF) sy’n noddi’r cynllun JFF. Mae’r LEF wedi bod yn ofalus iawn i sicrhau bod pob JFF yn gallu cael gafael ar adnoddau a chysylltiadau i helpu eu gyrfa a’u datblygiad personol. Ar gyfer fy mhrosiect, roeddwn i’n gallu cael cymorth a chyngor 1:1 gan Shaunen Lambe (cyfarwyddwr gweithredol Just for Kids Law, a oedd hefyd yn gweithio fel bargyfreithiwr yn y DU), a helpodd fi i ddatblygu’r cynnig i gael gwasanaeth cynghori yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant. Rwy’n teimlo bod y math hwn o gefnogaeth a pharodrwydd i helpu yn adlewyrchu’n dda ar yr LEF, ac yn sicr wedi cyfrannu at fy ngalluogi i deimlo’n gyfforddus ac yn gymwys yn fy rôl. Er enghraifft, yr ‘wythnos breswyl’ a drefnwyd gan yr LEF ar gyfer yr holl JFFs presennol a blaenorol i ddod at ei gilydd i drafod a chymharu ein profiadau. Roedd cyfleoedd hefyd ar gyfer hyfforddiant mewn gwahanol feysydd, fel cwblhau ceisiadau am grantiau ac ati. Roedd y digwyddiad preswyl yn gyfle gwych i fod ymhlith unigolion o’r un anian, sydd hefyd yn arbenigo mewn cyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig gan ein bod ar wasgar ledled y DU.

Plant yw’r grŵp mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae’n fraint gennyf allu dweud fy mod yn awr yn rhan o gymuned o bobl sy’n ymdrechu i ddiwallu eu hanghenion am wasanaethau cyfreithiol, cefnogaeth ac eiriolaeth. Ni fyddwn wedi gallu gwneud hyn heb yr LEF na’r sefydliad sy’n fy nghynnal, sef Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach!