Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddion

23ain Medi yw ‘Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddion’ swyddogol y Cenhedloedd Unedig, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ieithoedd arwyddion a gwireddu hawliau dynol tua 72 miliwn o bobl fyddar ledled y byd.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhan bwysig o berthyn, o ryngweithio â ffrindiau, teulu ac eraill, ac o allu darganfod pethau a dweud ein dweud. Yng Nghymru heddiw, mae tua 575,000 o bobl yn profi rhyw fath o golli clyw. Mae hynny’n fwy na chyfanswm poblogaeth Caerdydd ac Abertawe gyda’i gilydd!

Mae nifer yn defnyddio ieithoedd arwyddion, gydag Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn ddewis iaith nifer o fewn y gymuned fyddar yng Nghymru. Mae gan BSL ei strwythur gramadegol a’i gystrawen ei hun. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith ynddo’i hun yn 2004. Amcangyfrifir bod 7,200 o bobl yng Nghymru yn defnyddio BSL gartref. Gall llawer mwy o ddehonglwyr, cyfieithwyr, athrawon etc. ddefnyddio BSL.

Hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys sawl erthygl sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc byddar yng Nghymru a ledled y byd.

  • Mae Erthygl 2 yn dweud bod gan bob plentyn hawliau (pawb o dan 18 oed), ac na ddylid gwahaniaethu yn eu herbyn ar unrhyw sail – gan gynnwys iaith ac anabledd – wrth wireddu eu hawliau.
  • Mae Erthygl 13 yn amlinellu rhyddid mynegiant, ac yn egluro y dylai plant fel arfer allu chwilio, cael mynediad a rhannu gwybodaeth o bob math yn y ffordd y maen nhw’n dewis. Mae yna rai cyfyngiadau ar hyn i sicrhau nad ydych chi’n derbyn nac yn rhannu gwybodaeth sy’n niweidiol i chi neu i bobl eraill.
  • Mae Erthygl 23 yn rhoi’r hawl i blant a phobl ifanc anabl fwynhau bywyd llawn a da, lle mae eu hurddas yn cael ei ddiogelu, eu hunanddibyniaeth yn cael ei hyrwyddo a’u hymwneud yn y gymuned yn cael ei hwyluso.
  • Mae Erthygl 29 yn amlinellu mai pwrpas addysg yw datblygu personoliaeth, talentau a galluoedd meddyliol a chorfforol pob plentyn i’w lawn botensial.
  • Mae Erthygl 30 yn nodi na ddylid gwrthod yr hawl i blant ddefnyddio eu hiaith.

Mae’r hawliau hyn yn ategu’r hawliau sydd wedi’u cynnwys mewn cytuniadau rhyngwladol eraill, fel Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, y mae’r Deyrnas Unedig wedi’i lofnodi.

Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gwnaed cryn ymdrech i gryfhau hawliau plant yng Nghymru.

Yn 2001, crëwyd swyddfa Comisiynydd Plant Cymru. Y Comisiynydd Plant sy’n gyfrifol am hyrwyddo hawliau plant, gwrando ar blant a gweld beth sy’n bwysig iddyn nhw, cynghori plant a dylanwadu ar y llywodraeth.

Yn 2011, gosododd y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc ddyletswydd ar aelodau Llywodraeth Cymru i ystyried sut mae newidiadau i’r gyfraith yn effeithio ar blant a’u hawliau.

Deddfau eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc byddar yng Nghymru

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl o ran eu hanableddau mewn perthynas â chyflogaeth, darparu nwyddau a gwasanaethau, addysg a thrafnidiaeth. Mae gan gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau ddyletswydd hefyd i wneud addasiadau rhesymol er mwyn goresgyn rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Os ydych chi’n fyddar neu â nam ar eich clyw, mae’r gyfraith hon yn golygu y gallech ddisgwyl cael eich dysgu gan rywun sy’n gallu arwyddo neu y byddech chi’n cael cymorth gyda BSL pan fyddwch am ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwella gwasanaethau y gall plant byddar eu derbyn, gan gynnwys;

Cyflwyno safonau a chanllawiau o fewn y gwasanaeth iechyd, sy’n nodi safon y gwasanaeth y dylai pobl sy’n colli clyw ei ddisgwyl pan fyddan nhw’n defnyddio’r GIG neu unrhyw ran ohono.

Nod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yw gwella’r cymorth a ddarperir i blant ag anghenion ychwanegol, gan sicrhau y cefnogir pob plentyn yn fwy effeithiol.

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn nodi y dylid cofnodi anghenion cyfathrebu unigolion sy’n derbyn cymorth i sicrhau y gellir diwallu eu hanghenion.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i osod a gweithio tuag at gyfres o amcanion sy’n cyfrannu at y saith nod llesiant a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Un o’r nodau hyn yw creu Cymru mwy cyfartal, un sy’n galluogi pobl o bob cefndir ac amgylchiadau i gyflawni eu potensial ac i gymryd rhan lawn mewn bywyd cymunedol.

Lle i wella

Er gwaethaf y camau a gymerwyd, mae nifer o blant byddar a’u teuluoedd yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau, gan gynnwys cost uchel gwersi BSL, yr anghysondeb mewn cymorth cymwys i blant ddefnyddio BSL mewn ysgolion ac anhawster cael mynediad at wybodaeth a chymorth ar draws ystod eang o wasanaethau BSL.

Yn 2015, creodd DEFFO Cymru, fforwm ar gyfer pobl ifanc byddar yng Nghymru, ddeiseb yn galw am fynediad gwell i addysg a gwasanaethau eraill i blant sy’n defnyddio BSL. Edrychodd y Pwyllgor Deisebau ar hyn, a thrafodwyd eu canfyddiadau gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2019, lle derbyniodd y Gweinidog Addysg dri o’r pedwar argymhelliad, gan ymrwymo i gynnal adolygiad o argaeledd dosbarthiadau BSL ac archwilio datblygiad siartr genedlaethol i ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc byddar a’u teuluoedd.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn bwysig, ac mae hynny wedi’i gydnabod mewn cytuniadau rhyngwladol a deddfau cenedlaethol. Mae Cymru wedi dod yn bell o ran sicrhau bod hawliau plant sy’n defnyddio ieithoedd arwyddion yn gallu mwynhau eu hawliau, ond mae lle i wella.

Gadael Ymateb