Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  (Cymru) 2015

“Fel cyndeidiau, gobeithio bydd ein disgynyddion yn falch ohonom”

Cyflwynodd  yr Athro Owen, Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe ac Athro Astudiaethau Cyfreithiol, ddarlith yn ddiweddar ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan roi cipolwg diddorol i’r Ddeddf; o ran ei gydnabyddiaeth ryngwladol (a elwir gan y Cenhedloedd Unedig fel ‘arwain ar lefel fyd-eang’), ei effaith yng Nghymru hyd yma a chamau gweithredu Ysgol Gyfraith Hillary Rodham Clinton (Prifysgol Abertawe) wrth weithredu’r Ddeddf.

Awgrymodd yr Athro Owen fod y Ddeddf yn ‘marmite’ ymhlith y proffesiwn cyfreithiol – “ry’ch chi naill ai’n ei charu neu’n ei chasáu!”. Nod y ddeddfwriaeth unigryw hon yw diogelu ‘llesiant diwylliannol’ – syniad cymharol newydd – o ddinasyddion Cymru’r dyfodol. Mae’n canolbwyntio ar saith ‘nod llesiant’ – Cymru lewyrchus, cydnerth, iach, sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, yn fwy cyfartal, gyda diwylliant ffyniannus a chydlynus. Dyma’r cyntaf yn y byd i roi pwerau statudol i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol (gan gynnwys cyngor a hyrwyddo, ymchwil, cynnal adolygiadau a gwneud argymhellion).

Er ‘yn arwain ar lefel fyd-eang’, galwodd yr Owen Athro ar bwysigrwydd cydnabod y dyfyniad llawn a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig. Dywedodd Nikhil Seth, Cyfarwyddwr yr Is-adran dros Ddatblygu Cynaliadwy, y Cenhedloedd Unedig ‘Gobeithiwn fod yr hyn y mae Cymru yn gwneud heddiw yr hyn fydd y byd yn ei wneud yfory. Gweithredu, sy’n fwy na geiriau, yw gobaith ein cenedlaethau ar hyn o bryd a chenedlaethau’r dyfodol.’ Dim ond rhethreg yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun. Sut mae gwneud pobl yn atebol a chreu newid sylweddol mewn ymddygiad? Mae llawer o ddeddfwriaeth flaengar yng Nghymru yn canolbwyntio ar ‘newid ymddygiad’, sydd i rai, yn teimlo’n optimistaidd mewn perthynas ag effaith ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, mae ymchwil diweddar Hoffman yn dangos effaith bositif deddfwriaeth Cymru ar newid ymddygiad o fewn y llywodraeth, y sector cyhoeddus ac yn ehangach yn y blynyddoedd diwethaf.*

Mae beirniaid y Ddeddf yn dweud ei fod yn ceisio ‘plesio pawb’ a’i fod yn fersiwn wan o’r weledigaeth a gyflwynwyd yn y cynllun datblygu cynaliadwy gwreiddiol, ‘Cymru’n Un, Cenedl Un Blaned’ a oedd yn amlinellu barn gref ar yr ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’. Gofynnwyd cwestiynau fel; am bwy ry’n ni’n sôn pan fyddwn yn dweud ‘cenedlaethau’r dyfodol’? A beth yw’r prif faterion y mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw?

Mae yna hefyd amrywiaeth o densiynau o fewn y Ddeddf ei hun. Er enghraifft: mae’r ddadl ynglŷn â ffordd liniaru’r M4 yn amlygu’r tensiynau rhwng ‘Cymru Lewyrchus’ a ‘Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang’ –  gall yr hyn sydd orau i economi Cymru fod yn niweidiol i ôl-troed carbon Cymru. Mae yna hefyd gwestiynau i’w gofyn mewn perthynas â materion y dyfodol nad ydym yn eu deall eto. Er enghraifft, beth fydd effaith ceir trydan ar y sefyllfa hon?

Er gwaethaf rhai pryderon, mae natur arloesol a phositif y Ddeddf eisoes yn cael ei theimlo mewn nifer o sectorau. Mae tryloywder y broses o gynhyrchu datganiad llesiant gan sefydliadau sydd wedi’u rhwymo gan y Ddeddf yn rhoi pwyslais ar y syniad o dystiolaeth ac yn caniatáu i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol alw sefydliadau i gyfrif.

Mae’r Ddeddf hefyd yn amlinellu 5 dull arfer gorau o weithio; hirdymor, cydweithio, atal, integreiddio a chynnwys. Mae hyn yn awgrymu bod symud o’r byr dymor yn cael ei groesawu (cynllunio cyllideb a phrosiect yn seiliedig ar gylchoedd gwleidyddol) a ffocws ar ddealltwriaeth gyfranogol a chyfunol o hunaniaeth. Ni ddylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu gorfodi ar unigolyn mwyach. Dylai’r unigolyn fod yn gyfranogwr gweithredol o’i fywyd ei hun.

Gan ystyried yr effaith y bydd y Ddeddf yn ei chael ar weithrediadau prifysgolion, nododd yr Athro Owen nad yw’r brifysgol wedi’i rhwymo gan y Ddeddf, fodd bynnag, mae’r sefydliad sy’n ariannu’r brifysgol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, wedi’i rwymo. Mae hyn felly yn cynnig her i’r sector addysgol o ran y ffordd orau o ddefnyddio’r Ddeddf. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, er enghraifft, bellach yn cynnig Tystysgrif Datblygu Cynaliadwy a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i fyfyrwyr a staff.

O fewn Addysg Uwch, mae’r Gyfraith yn benodol yn achos diddorol. Mae’r gyfraith yn mwynhau rhoi problemau mewn blychau unigol, tra bod y Ddeddf yn cefnogi symudiad tuag at safbwynt mwy cyfunol o hunaniaeth, ac felly daw problemau sy’n ymwneud â chymunedau yn hytrach na’r unigolyn yn fwy amlwg. Mae Clinig y Gyfraith Abertawe wedi dechrau gweithio ar hyn drwy ddefnyddio technoleg mapio gwres i nodi anghenion cyfreithiol sydd heb eu diwallu. Rhoddodd yr Athro Owen enghraifft ragorol hefyd lle nad oedd cymdeithas dai yn deall pam nad oedd y tenantiaid yn hapus gyda’r ardd oedd yn ymddangos yn newydd ac yn hyfryd. Ond i’r tenantiaid, dim ond llwybr gwyntog ydoedd oedd yn caniatáu i weithgareddau anghyfreithlon posibl ddigwydd yn y dirgel!

I gloi, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu ethos ‘awyr las’ ar gyfer sut hoffem i Gymru fod yn y dyfodol, gan ein gwneud yn ‘gyndeidiau y bydd ein disgynyddion yn diolch iddynt’. Fodd bynnag, mae yna nifer o densiynau a chwestiynau sydd angen eu hystyried o hyd. Mae’r rhethreg bellach wedi’i hymgorffori yn y gyfraith ond mae angen gweithredu er mwyn gwireddu’r nodau llesiant.

 

* Hoffman, S. (2019) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Datganoli ac Integreiddio Deddfwriaethol: Astudiaeth Achos o Gymru. International Journal of Human Rights.

Gadael Ymateb