Nododd Senedd Gyffredinol y Cenhedloedd Unedig fod 27 Ionawr – dyddiad rhyddhad Auschwitz-Birkenau <http://www.auschwitz.org/en/> – yn ’Ddiwrnod Cofior Holocost Rhyngwladol <https://encyclopedia.ushmm.org/content/en/article/auschwitz> <https://www.ushmm.org/wlc/en/article.php?ModuleId=10008232>. Ar y diwrnod hwn, bob blwyddyn mae’r UN yn annog pob Aelod-wladwriaeth i gofio a thalu teyrnged i’r chwe miliwn o ddioddefwyr Iddewig yn ystod yr Holocost, a miliynau o ddioddefwyr eraill Natsïaeth, a datblygu rhaglenni addysgol i helpu i atal hil-laddiad yn y dyfodol. Noda’r UN <https://www.un.org/en/outreach-programme-holocaust/page/2022> bod ‘ysgrifennu am hanes a chofio yn dod ag urddas a chyfiawnder i’r rhai yr oedd cyflawnwyr yr Holocost yn bwriadu eu gwaredu.’ Heddiw, hoffem gofio pob dioddefwr yr Holocost. Hoffem hefyd gofio Janusz Korczak (1878-1942) am ei ymroddiad di-dor i blant a hawliau plant fel roedd yr Holocost yn datblygu.

 

Janusz Korczak: hyrwyddwr hawliau plant

Roedd Janusz Korczak yn baediatregydd ac yn Iddew o Wlad Pwyl. Roedd yn awdur plant ac yn flaengar iawn ym maes addysg oedd yn canolbwyntio ar y plentyn. Roedd hefyd yn rhedeg cartref plant amddifad i blant iddewig yn WarsawYn ddyn oedd ymhell o flaen ei amser, roedd Janusz Korczak yn gredwr brwd mewn gallu plant i fod yn gyfrifol dros newid yn eu bywydau eu hunain. Credodd Janusz Korczak: ‘prif hawl plentyn, nad oes modd ei ddadlau, yw’r hawl i leisio barn a chwarae rhan weithredol yn ein hystyriaethau a’n penderfyniadau sy’n berthnasol iddo ef’. Roedd yn gwerthfawrogi ac yn parchu plant fel bodau dynol, ac yn cydnabod eu capasiti a’u cymhwysedd yn y presennol, gan bwysleisio pwysigrwydd: ‘hawl y plentyn i’r presennol’. Wnelo gwerth ei fywyd ddim â’r dyfodol, ond yn hytrach y presennol, yn y lle hwn a’r amser hwn! Roedd yn cydnabod y dylai plant allu datblygu eu personoliaethau a’u talentau a chyflawni eu llawn botensial, gan egluro: ‘dylai plant allu tyfu i bwy bynnag roedden nhw i fod i fod – y person anhysbys y tu mewn i bob un ohonynt yw ein gobaith ar gyfer y dyfodol.’ Roedd yn mynnu ar barch i fuddion plant, nid ar gyfer rhesymau elusen, ond fel hawl dynol.

Bu i werthoedd Janusz Korczak droi yn y ffordd yr oedd yn grymuso plant i gymryd rhan yn llywodraethiant y cartref plant yr oedd yn ei redeg. Trefnodd senedd i blant a phapur newydd i blant, gyda’r bwrdd golygyddol cyntaf yn cynnwys plant yn unig. Hefyd, sefydlodd lys i blant, ar sail ei Gyfansoddiad ar Hawliau Plentyn.

Rhaid cadw mewn cof y gellid ystyried gwaith Janusz Korczak, yn ei gyfnod ef, yn chwyldroadwy bron o ran rhoi llais i blant ar faterion oedd yn effeithio arnyn nhw.

 

Byth yn gadael y plant yn y cartref

Daeth ymrwymiad Janusz Korczak i’r plant yr oedd yn byw a gweithio gyda nhw i’r amlwg yn ystod y digwyddiadau ar ôl 1939. Ar ôl meddiannu Gwlad Pwyl, pan gafodd llawer o Iddewon Warsaw eu gorfodi i galedi ac amodau annynol geto Warsaw, <https://encyclopedia.ushmm.org/content/en/article/warsaw> mynnodd Janusz Korczak ei fod yn aros gyda’r plant, a symudodd gyda nhw i’r geto.

Gwnaeth pob ymdrech i barhau i redeg ei gartref i blant amddifad ar sail ei werthoedd, a cheisiodd ddiogelu pob plentyn rhag realiti meddiannaeth y Natsïaid. Wrth wneud hyn, gwnaeth ei orau glas i sicrhau bod yr amodau’n addas i’r bron 200 o blant yn y cartref i blant, yn ogystal â’r plant eraill oedd yn sownd yn y geto. Yn 1942, sylweddolodd Janusz Korczak bod y plant yn mynd i gael eu symud o’r geto i Treblinka <https://encyclopedia.ushmm.org/content/en/article/treblinka> ble bydden nhw’n cael eu lladd gan y Natsïaid. Cafodd gyfle i ddianc, roedd ei ffrindiau Pwyleg wedi creu cynllun er mwyn ei achub. Yn lle hynny, penderfynodd aros gyda’r plant, fel na fydden nhw’n wynebu Treblinka ar eu pen eu hunain.

 

Mudiad hawliau dynol a hawliau plant

Arweiniodd hunllefau’r Ail Ryfel Byd at ddatblygu’r Datganiad Hawliau Dynol Byd-eang (UDHR) ac er bod hawliau plant wedi’u cynnwys yn ymhlyg yn y UDHR, roedd sawl yn credu bod anghenion arbennig plant angen dogfen ar wahân. Ar ôl llawer o ddadlau a thrafod, mabwysiadwyd y Datganiad ar Hawliau’r Plentyn gan Senedd Gyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1959.

Roedd Datganiad ar Hawliau’r Plentyn yr UN yn 1959, fel datganiad Geneva yn 1924 yn canolbwyntio llawer ar ‘amddiffyn a darparu’ hawliau, ac nid oedd yn cynnwys y dull yr oedd Janusz Korczak wedi’i feithrin yn ei gartref i blant, h.y. hawl plant i chwarae rhan yn y materion sy’n effeithio arnyn nhw. Hefyd, nid oedd yn ddogfen gyfreithiol ac roedd ganddo statws cyfyngedig datganiad. Roedd hi’n dri deg blynedd yn ddiweddarach tan i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gael ei fabwysiadu yn 1989.

 

Sylwadau i gloi

Ar y diwrnod hwn, fe gofiwn Janusz Korczak am y cyfaddawd a wnaeth i fod yno i blant ei gartref bob amser, a pheidio eu gadael ar ôl. Diolchwn iddo hefyd am yr etifeddiaeth barhaus y mae wedi’i roi i bob plentyn, drwy ei gyfraniad at hawliau plant yn fyd-eang. Mae ei weledigaeth wedi cael ei gydnabod yn rhywbeth a wnaeth ’ddylanwadur <https://rm.coe.int/janusz-korczak-the-child-s-right-to-respect/16807ba985> broses o ddrafftio’r UNCRC ac ysbrydoli dulliau sy’n troi hawliau plant yn realiti. Yng Nghymru, rydym wedi croesawu’r weledigaeth hon, gyda’n ’cyfraith ân polisi <https://gov.wales/childrens-rights-in-wales> yn cael ei ategu gan yr UNCRC a’r llywodraeth a gwasanaethau sy’n gweithio tuag at droi dull hawliau plant <https://childrenslegalcentre.wales/resources/a-childrens-rights-approach-cra-to-public-services-in-wales/> yn ymarfer.

Heddiw, cofiwn am Janusz Korczak, y 200 o blant yn ei gartref i blant a’r holl bobl wnaeth golli eu bywydau yn ystod yr Holocost. Byddwn yn parhau i weithio’n gale di barchu ei weledigaeth a hyrwyddo hawliau’r plant.

 

 

Ôl-nodiadau.

  1. Dyfyniadau Janusz Korczak wedi’u nodi yn Arie de Bruin, Children’s Rights in Health Care and the Legacy of Janusz Korczak, yn Children’s Rights and Health Care (gol.) Doek J a Dorscheist (Brill Publications 2018)
  2. Ar gyfer Adnoddau Gwasanaethau Ysgol

https://hwb.gov.wales/news/articles/7c624d1b-aad7-48f2-b013-1fec5e100b42

  1. Ar gyfer cynllun gwers CA3 50 munud:

https://holocausteducation.org.uk/teacher-resources/post-it-online-courses/janusz-korczak-orphans-warsaw-ghetto/

 

Awdur: Dr Rhian Croke