Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi diweddaru cyfres o ganllawiau ar gyfer plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru, a’r gweithwyr cymdeithasol a’r gofalwyr maeth sy’n gofalu amdanynt.
Mae’r canllaw i blant ar gael mewn 12 o ieithoedd (Albaneg, Amhareg, Arabeg, Ffarsi, Cwrmanjeg, Oromo, Pwnjabeg, Soraneg, Tigrinya, Fietnameg, Dari ac iaith swyddogol Affganistan (Pashto)). Mae’n ymdrin â’r canlynol:
- Y prosesau ceisio lloches
- Yr hawliau cyfreithiol sydd ar gael i blant
- Derbyn gofal gan weithiwr cymdeithasol
- Esboniad o’r ffordd y mae’r system fewnfudo’n gweithio
- Cynllun llwybr ar eu cyfer pan fyddant yn cyrraedd 18 oed
- Rhestr o sefydliadau a all eu helpu
Ochr yn ochr â’r canllaw i blant, diweddarwyd y canllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant sy’n agored i niwed sy’n chwilio am ddiogelwch yng Nghymru. Bydd y canllawiau’n eu helpu i gydbwyso’r angen i sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn derbyn gofal, â sicrhau bod gofynion mewnfudo’r DU yn cael eu bodloni.
Gall gofalwyr maeth sy’n ymgymryd â rôl hollbwysig croesawu plant sy’n ceisio lloches i’w cartref hefyd gael gafael ar ganllaw wedi’i deilwra i roi’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt.
Bydd yr holl ganllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Wrth greu’r ffeithlenni a’r canllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth, gwnaeth tîm y prosiect o Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ymgynghori’n helaeth â gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant yng Nghymru, y Rhwydwaith Maethu a sefydliadau sy’n cefnogi plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn berthnasol i’r bobl ifanc, ac yn hawdd ei deall.
Meddai Siân Pearce, cyfreithiwr profiadol ym maes plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru sydd wedi cefnogi’r broses o ddiwygio’r canllawiau: “Dyma brosiect hynod gyffrous i gymryd rhan ynddo. Fel rhan o’i hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa, mae gan Gymru gyfle go iawn i ddatblygu ymagweddau sy’n canolbwyntio ar blant at weithio gyda phlant sy’n rhan o’r system ceisio lloches, a dyma’r dechrau yn unig.”
Meddai’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru i ddatblygu gwybodaeth hygyrch sy’n hawdd ei defnyddio gan blant sy’n amlinellu hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru, ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth hollbwysig i gefnogi gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth sy’n gweithio gyda’r plant a’r bobl ifanc hyn. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu rhagor o ddarpariaethau wedi’u teilwra i gefnogi’r plant hyn wrth iddynt ymaddasu i gyrraedd Cymru.”
Dyma esboniad Hannah Bussicott, Rheolwr Canolfan Gyfreithiol y Plant, o’r camau nesaf: “Efallai fod plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru wedi teithio yma ar eu pennau eu hunain, gan chwilio am ddiogelwch. Mae datblygu’r canllawiau clir a hygyrch hyn yn rhan hanfodol o sicrhau bod y plant hynny’n cael eu parchu, eu bod yn cael gwybodaeth a’u bod yn ddiogel, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
“Dros y tair blynedd nesaf, gyda chefnogaeth gan Brifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n bwriadu datblygu fideos llawn gwybodaeth sy’n addas i blant, hyfforddiant proffesiynol ledled Cymru, gweithgarwch dadlau dros bolisïau ac ymgyrchu dros Adduned. Bydd hyn i gyd yn helpu i sicrhau bod Cymru wir yn Genedl Noddfa.”
I archebu lle ar yr hyfforddiant proffesiynol ac am y newyddion diweddaraf am y fideos ewch i wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.