Bu gwisg ysgol yn y newyddion yng Nghymru’n ddiweddar. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno canllaw newydd i ysgolion sy’n bwriadu cyflwyno gwisg ysgol, neu newid y wisg ysgol sydd ganddynt eisoes. Rhaid dilyn y canllawiau o 1 Medi 2019.

Felly, beth yw’r newidiadau i wisg ysgol yng Nghymru? A beth mae’r newidiadau i wisg ysgol yng Nghymru yn ei olygu i chi os ydych chi yn yr ysgol.

Beth mae’r canllaw newydd yn ei ddweud am wisg ysgol yng Nghymru?

Pan fydd ysgol yn cyflwyno gwisg ysgol am y tro cyntaf, neu’n newid y wisg ysgol sydd ganddi eisoes, bydd yn gorfod edrych ar y canllaw newydd sydd wedi ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, a’i ystyried wrth wneud unrhyw benderfyniadau.

Mae’r canllaw newydd yn esbonio sut y dylai llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol wneud penderfyniadau am wisg ysgol, ac yn nodi nifer o egwyddorion ynghylch gwisg ysgol. Yn y gorffennol, roedd canllawiau ynghylch gwisg ysgol yn ‘wirfoddol’ ac nid oedd rhaid i ysgolion dalu unrhyw sylw iddynt. Mae’r canllaw newydd yn ‘ganllaw statudol’ sy’n golygu bod yn rhaid i ysgolion roi ystyriaeth iddo.

Cyfranogaeth disgyblion mewn penderfyniadau ynghylch gwisg ysgol

Dylai Cyngor yr Ysgol chwarae rhan yn y penderfyniad ynghylch gwisg ysgol, mewn ymgynghoriad â holl ddisgyblion yr ysgol. Mae hyn yn golygu, os yw eich ysgol chi yn cyflwyno gwisg ysgol, neu’n newid y wisg ysgol, dylech gael dweud eich dweud ynghylch hyn.

Cydraddoldeb a gwisg ysgol

Mae’r canllaw statudol newydd ar wisg ysgol yng Nghymru yn datgan yn glir fod yn rhaid i ysgolion sicrhau nad yw polisïau ar wisg ysgol yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ddisgyblion. Mae hyn yn golygu peidio â thrin rhywun yn wahanol – ac yn wael o gymharu ag eraill am resymau fel rhyw, rhywedd, hil, crefydd neu anabledd.

Mae’r canllaw yn edrych yn benodol ar

  • Gwahaniaethu ar sail eich hil/cred grefyddol

Rhaid i ysgolion feddwl sut y gallai polisi ar wisg ysgol effeithio arnoch oherwydd eich crefydd. Fe allai olygu, er enghraifft, y cewch wisgo rhyw eitem benodol o ddillad oherwydd eich crefydd, ond bod yn rhaid iddi fod yn lliwiau’r ysgol.

  • Gwahaniaethu ar sail eich anabledd

Os oes gennych chi anabledd, ni ddylech gael eich rhoi dan anfantais gan bolisi ar wisg ysgol neu ymddangosiad  Mae angen i’r ysgol sicrhau ei bod yn gwneud ‘addasiadau rhesymol’ os oes rhywbeth yn y polisi ar wisg ysgol yn gwneud pethau’n anodd i chi.

  • Gwahaniaethu ar sail eich rhyw neu eich hunaniaeth o ran rhywedd

Ni ddylai gwisg ysgol drin disgyblion yn wahanol ar sail rhyw neu hunaniaeth o ran rhywedd, felly mae angen i wisg ysgol fod yn ‘niwtral o ran rhywedd’. Ni ddylai polisïau ar wisg ysgol gyfyngu rhai eitemau o ddillad i un ai ferched neu fechgyn: er enghraifft ‘dim ond bechgyn gaiff wisgo trowsus a dim ond merched gaiff wisgo sgert’.

Cost a fforddiadwyedd gwisg ysgol

Rhaid i ysgolion feddwl yn ofalus iawn am gost a fforddiadwyedd gwisg ysgol a sicrhau na fyddai’r ffactorau hyn yn gwneud i bobl beidio â gwneud cais am le yn eu hysgol. Dylent wneud pethau fel sicrhau fod pobl yn cael dewis o lefydd i brynu eitemau o’r wisg ysgol, gan osgoi eitemau drud fel blaseri a sicrhau bod eitemau o ddillad yn hawdd eu golchi.

Rhaid i ysgolion feddwl yn ofalus ynghylch a ddylid cael gwisg ysgol wahanol ar gyfer yr haf a’r gaeaf, ond mae angen bod yn hyblyg os ceir cyfnod o dywydd eithriadol i sicrhau y gall disgyblion fod yn gyfforddus yn yr ysgol. Gallai ysgol ddweud, os yw hi’n boeth iawn, y caiff disgyblion wisgo’u dillad ymarfer corff.

Beth arall mae’r canllaw newydd yn ei gynnwys?

Mae’r canllaw newydd ar wisg ysgol ac ymddangosiad yn edrych ar gotiau, teithio o’r cartref i’r ysgol, gwisg Ymarfer Corff, colur a gemwaith, materion iechyd a diogelwch a chyflyrau iechyd – nad ydynt o bosibl yn dod o fewn ‘anabledd’ ond lle y gallai gwisg ysgol, serch hynny, achosi problem.

Mae’r canllaw hefyd yn edrych ar yr hyn y gall ysgol ei wneud os nad yw disgybl yn dilyn y polisi ar wisg ysgol ac ymddangosiad. Mater i’r pennaeth yw gweithredu os nad yw disgybl yn gwisgo’r wisg ysgol gywir. Mae’r canllaw yn glir fod yn rhaid iddo ef/hi geisio deall pam nad yw’r disgybl yn gwisgo’r wisg ysgol gywir.

Beth fydd hyn yn ei olygu i chi?

Ymgynghoriad

I ddechrau, os yw eich ysgol yn bwriadu cyflwyno gwisg ysgol neu newid y wisg bresennol, fel disgybl gallwch ddisgwyl cael dweud eich dweud am hyn. Dylai eich rhieni/gofalwyr dderbyn ymgynghoriad hefyd. Os ydych chi’n ystyried eich hun yn rhan o grŵp lleiafrifol penodol yn eich ysgol, dylai’r ysgol ymgynghori ag arweinwyr y grŵp hwnnw, i sicrhau y caiff buddiannau pawb eu clywed wrth ddatblygu’r polisi newydd.

Gwybodaeth

Dylech gael eich atgoffa bob blwyddyn o gynnwys y wisg ysgol. Dylai’r polisi ar wisg ysgol ac ymddangosiad fod ym mhrosbectws yr ysgol, a gallai fod ar wefan yr ysgol hefyd, neu gael ei rannu’r rheolaidd mewn modd arall, megis ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn cylchlythyrau.

Cwyno

Rhaid i’ch ysgol fod â threfn gwyno ar gyfer ymdrin â chwynion fel y gallwch chi neu eich rhieni/gofalwyr ei defnyddio i gwyno am unrhyw agwedd ar y polisi gwisg ysgol ac ymddangosiad yn eich ysgol.

Disgyblaeth

Os oes gan eich ysgol wisg ysgol, a’r polisi gwisg ysgol ac ymddangosiad wedi ei lunio’n briodol, yna oni fo rheswm da iawn pam na allwch chi ei gwisgo – er enghraifft am eich bod o’r farn ei bod yn gwahaniaethu yn eich erbyn – gall eich ysgol eich disgyblu am beidio â gwisgo’r wisg ysgol gywir.

Gellir eich anfon adref i newid i’r wisg ysgol briodol, ond ddim ond am yr amser y byddai’n cymryd i chi newid, a ddim ond os yw’n ddiogel i chi fynd adref. Yn yr un modd, os ydych chi wedi cael eich anfon adref ddim ond i newid eich dillad neu i newid rhywbeth arall – fel glanhau colur neu newid steil eich gwallt, fe allech gael eich nodi’n ‘absennol heb awdurdod’ os byddwch yn cadw draw o’r ysgol am gyfnod hwy nac sydd angen i wneud yr hyn a ofynnwyd i chi. Mae’r canllaw yn datgan yn glir nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y byddai gwahardd o’r ysgol, fel arfer, yn ffordd briodol o ymdrin â rhywun sydd ddim yn dilyn y polisi gwisg ysgol neu ymddangosiad.

 

Mae gennym ragor o wybodaeth am wisg ysgol ar ein gwefan, ac fe allwch chi ddarllen canllaw Llywodraeth Cymru ar bolisïau gwisg ysgol ac ymddangosiad drosoch eich hun yma.