Mae The Huge Bag of Worries gan Virginia Ironside yn adrodd hanes Jenny, merch hapus gyda mam a thad hyfryd, brawd mawr hoffus, ci o’r enw Loftus, ffrindiau gorau ac athro gwych yn yr ysgol. Ond yn ddiweddar, mae Jenny wedi dechrau poeni.
Mae hi’n poeni am ei phwysau, ei rhieni’n ffraeo, ei graddau yn yr ysgol, a’r ffaith bod ei ffrind gorau’n gadael. Mae hi’n mynd yn fwyfwy digalon a chyn hir mae hi’n sylwi bod ganddi fag llawn pryderon. Ac mae’r bag hwn llawn pryderon yn ei dilyn ym mhobman: i’r ysgol, i’r toiled, hyd yn oed pan fydd hi’n gwylio’r teledu. Mae hi’n ceisio anwybyddu’r bag, ond dydy hynny ddim yn helpu. Mae’n ceisio ei daflu i ffwrdd, ond daw yn ôl bob amser. Mae hi hyd yn oed yn ceisio ei gloi allan, ond pan fydd hi’n dychwelyd i’w hystafell wely, mae o yna, yn aros amdani!
Mae hi’n teimlo mor flinedig gan bwysau ei phryderon, un diwrnod y tu allan i’w chartref mae’r dagrau’n dechrau llifo. Mae hen gymydog doeth yn sylwi ar ei gofid ac yn cynnig helpu Jenny gyda’i bag o bryderon. Mae cymydog Jenny yn ei dysgu bod “rhannu problem yn ei haneru,” ac, yn y pen draw, nid pryderon Jenny yw rhai ohonyn nhw ac nid oes angen iddi deimlo eu baich o gwbl. Ydych chi erioed wedi teimlo fel Jenny?
Adnabod materion Iechyd Meddwl
Drwy gydol The Huge Bag of Worries, mae Jenny yn profi llawer o faterion sy’n gallu effeithio ar iechyd meddwl. Er bod popeth ym mywyd Jenny yn ymddangos yn gadarnhaol ar ddechrau’r stori, mae ei bag o bryderon yn tyfu’n fwy ac yn fwy hyd nes y bydd pwysau ei phryderon yn mynd yn ormod o faich i’w hysgwyddo ac mae hi’n torri ei chalon.
Mae The Huge Bag of Worries yn ddefnyddiol i’ch helpu i ddeall nad yw bywyd bob amser yn fêl i gyd ac, er ei bod yn ymddangos weithiau bod pwysau eich pryderon yn ormod o faich i’w rheoli, allwch chi ddim anwybyddu neu geisio cuddio rhag eich problemau fel ffordd o ddelio â nhw. Gall rhannu pryderon gyda’r rhai sy’n poeni amdanoch chi, neu gyda phonl hŷn a doethach, eich helpu i ddeall bod llawer ohonom yn rhannu’r un pryderon ac, weithiau, gall trafod y pryderon hynny wneud iddyn nhw ymddangos yn haws eu rheoli. Gall hefyd eich helpu i ddeall nad eich pryderon chi yw rhai pryderon o gwbl, ac er eich bod yn poeni efallai, nid chi sy’n gyfrifol.
Eich hawliau
Mae’r Llywodraeth yng Nghymru wedi llofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), sy’n datgan bod gan blant a phobl ifanc hawliau, pwy bynnag ydyn nhw, lle maen nhw’n byw neu beth maen nhw’n credu ynddo. Ymysg yr erthyglau a restrir mae:
- Erthygl 2, sy’n datgan bod gan bob plentyn yr hawliau sydd wedi’u nodi yn UNCRC, pwy bynnag ydyn nhw, lle bynnag maen nhw’n byw, beth mae eu rhieni’n ei wneud, pa iaith maen nhw’n ei siarad, beth yw eu crefydd, boed nhw’n fachgen neu’n ferch, beth yw eu diwylliant, a oes ganddyn nhw anabledd, a ydyn nhw’n gyfoethog neu’n dlawd;
- Erthygl 12, sy’n datgan bod rhaid i’r partïon sicrhau bod plentyn sy’n gallu ffurfio ei farn ei hun yr hawl i fynegi’r farn honno’n rhydd ym mhob mater sy’n effeithio arno;
- Erthygl 13, sy’n datgan bod gan bob plentyn yr hawl i ryddid mynegiant; bydd yr hawl hon yn cynnwys y rhyddid i ofyn am wybodaeth a syniadau o bob math, eu derbyn a’u rhannu, ni waeth beth yw’r ffiniau, naill ai ar lafar, yn ysgrifenedig neu mewn print, ar ffurf celf, neu drwy unrhyw gyfrwng arall mae’r plentyn yn ei ddewis;
- Erthygl 17, sy’n datgan bod partïon yn cydnabod y swyddogaeth bwysig sy’n cael ei chwarae gan y cyfryngau torfol a bydd yn sicrhau bod y plentyn yn cael mynediad at wybodaeth a deunyddiau o amrywiaeth o ffynonellau cenedlaethol a rhyngwladol, yn enwedig y rheini sydd wedi’u hanelu at hyrwyddo ei les cymdeithasol, ysbrydol a moesol a’i iechyd corfforol a meddyliol; ac
- Erthygl 25, sy’n datgan bod partïon yn cydnabod hawl plentyn sydd wedi cael ei roi gan yr awdurdodau cymwys at ddibenion gofal, amddiffyniad neu driniaeth o’i iechyd corfforol neu feddyliol, i gael adolygiadau rheolaidd o’r driniaeth a roddir i’r plentyn a’r holl amgylchiadau eraill sy’n berthnasol i’w leoliad.
Y tu hwnt i UNCRC, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” Strategaeth Drawslywodraethol sy’n gosod nodau ar gyfer gwella iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae’r Strategaeth hon yn cynnwys pobl o bob oed; plant a phobl ifanc, oedolion o oedran gweithio a phobl hŷn.
Sut gall y Strategaeth eich helpu chi?
Chwaraeon: Mae ymarfer corff yn gallu chwarae rhan bwysig o ran llesiant meddyliol. Bydd mynd i’r arfer o wneud ymarfer corff yn eich helpu i fod yn iach. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o fannau chwarae, llwybrau beicio, llefydd i gerdded, strydoedd diogel a mannau agored gwyrdd ar waith.
Y Celfyddydau a Diwylliant: Gall cymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant helpu i wella eich iechyd meddwl oherwydd mae’n eich helpu i ymlacio, mynegi pwy ydych chi a gwella hyder a hunan-barch drwy ddrama, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf.
Ysgolion: Mae ysgolion yn chwarae rhan bwysig yn eich bywyd. Mae cwnselwyr yn yr ysgol ar gael i’ch helpu gyda materion fel bwlio ac iselder.
Yn fy marn i…
Rydw i wir yn hoffi sut mae Virginia Ironside yn defnyddio delwedd bag go iawn o bethau corfforol i gynrychioli pryderon plentyn y mae’n rhaid eu cario gyda hi. Credaf y gallwn i gyd uniaethu â’r syniad hwn ond credaf ei fod yn ffordd arbennig o effeithiol o gael plant i ddelweddu a meddwl am fater sy’n delio â theimladau emosiynol ac anniriaethol.
Cadwch lygad am fwy o flogiau yn y gyfres ‘Darllen fy Hawliau’.
Gair am yr Awdur
Adam ydw i, o Flaenau Gwent yn Ne Cymru. Rwyf newydd orffen blwyddyn gyntaf Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC) ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl gorffen yn y brifysgol, dwi’n gobeithio bod yn gyfreithiwr llwyddiannus sy’n ymarfer.
