Asesiadau Oedran

Galwad allweddol: Rhoi’r Gorau i Ddefnyddio Gweithdrefnau Annibynadwy ar gyfer Pennu Oedran Plant sy’n Ceisio Lloches

Cafwyd pryderon parhaus ynglŷn â gweithdrefnau asesu oedran y Swyddfa Gartref ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, yn enwedig y defnydd o ddulliau annibynadwy. Mae’r arferion hyn yn aml yn arwain at asesu plant yn anghywir fel oedolion, a’u gwneud yn agored i gamfanteisio, cam-drin, cadw yn y ddalfa, a gwrthod cymorth a diogelu priodol. Mae’r camddosbarthu hwn yn peryglu plant sydd eisoes yn agored i niwed ac yn groes i’w hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Galwodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 2023 ar Wladwriaeth y DU i roi’r gorau i arferion o’r fath, gan argymell asesiadau amlddisgyblaethol sy’n blaenoriaethu lles pennaf y plentyn, yn sicrhau cymorth cyfreithiol priodol a’r hawl i herio penderfyniadau.

Ceir pryderon hefyd ynglŷn â’r Bwrdd Asesu Oedran Cenedlaethol (NAAB), a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU yn 2023 i ganoli asesiadau oedran. Mae nifer o sefydliadau’n dadlau bod hyn yn tanseilio annibyniaeth gweithwyr cymdeithasol ac arbenigedd awdurdodau lleol.

Yng Nghymru, rhaid i asesiadau oedran gyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n blaenoriaethu hawliau plant. Mae’r dull yng Nghymru, o dan arweiniad “Plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches: Pecyn Cymorth Asesu Oedran,” wedi’i wreiddio mewn trin y bobl ifanc hyn fel plant yn gyntaf. Serch hynny, mae diffyg arbenigedd cyfreithiol mewn heriau asesu oedran, sy’n gorfodi dibyniaeth ar ymarferwyr o’r tu allan i Gymru, nad ydynt, o bosib, wastad yn gyfarwydd â deddfwriaeth a chanllawiau Cymru. Darllenwch fwy am yr angen am well mynediad at gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol yma.

Mae oedi a diffyg oedolion priodol yn ystod asesiadau oedran yn cynyddu trawma ac yn amharu ar geisiadau lloches ac addysg. Mae mynediad at gyngor cyfreithiol yn brin iawn o adnoddau, yn enwedig yng Nghymru, i gyd yn atgyfnerthu’r angen am Wasanaeth Gwarcheidiaeth i gefnogi plant sydd ar eu pen eu hunain i lywio prosesau biwrocrataidd a chyfreithiol cymhleth. Darllenwch fwy am ein galwadau am Wasanaeth Gwarcheidiaeth fan hyn.

Darllenwch friff a ysgrifennwyd ar y cyd rhwng Dr Rhian Croke, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Matthew Court, Public Law Project fan hyn, ‘Rhoi’r Gorau i Ddefnyddio Gweithdrefnau Annibynadwy ar gyfer Pennu Oedran Plant sy’n Ceisio Lloches’