
Mae’n ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr 1933 pan mae Stella Saxby, sy’n ddeuddeg oed, yn deffro yn ei gwely ar ystâd y teulu, gyda rhwymynnau wedi’u lapio amdani. Daw Anti Alberta o’r cysgodion tywyll i’w hysbysu ei bod wedi bod mewn coma a bod ei rhieni wedi marw mewn damwain car drasig. Stella yw unig etifedd Neuadd Saxby, ond mae gan ei
anti afiach syniadau eraill ac mae’n benderfynol o dwyllo Stella i drosglwyddo’r ystâd iddi. Ar wahân i fod yn llyfr doniol a gwefreiddiol, mae’r nofel hon yn dangos i ni’r ymddygiad ofnadwy na ddylai plentyn fyth orfod ei wynebu. Mae hawliau Stella, a’n hawliau ni, yn cael eu diogelu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Mae 54 erthygl sy’n dweud y dylid trin plant a phobl ifanc fel eu bod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Felly, gadewch i ni edrych ar weithredoedd erchyll Anti Alberta a pha hawliau sydd gan blant fel Stella i’w hamddiffyn.
Erthygl 3: Lles Gorau’r Plentyn
Mae Anti Alberta yn dweud celwydd wrth Stella ac yn honni, ar ôl y ddamwain, y “cafodd pob asgwrn bach yn ei chorff ei dorri’n gannoedd o ddarnau mân. Roedd yn rhaid i ni dy godi fel darn o jeli wibli-wobli!” Mae hi’n ceisio darbwyllo Stella i drosglwyddo gweithred y tŷ iddi, er mwyn iddi allu gofalu am Stella (er, mewn gwirionedd, mae hi eisiau’r ystâd iddi hi ei hun). Mae gan Stella ei hamheuon ac, ar ôl torri’n rhydd o’r rhwymynnau, mae’n sylweddoli bod ei modryb yn dweud celwydd! Defnyddiwyd y rhwymynnau i atal Stella rhag dianc, roedd hi’n berffaith ffit ac iach. Roedd Anti Alberta yn anghywir i ddweud celwydd wrth Stella oherwydd, yn unol ag Erthygl 3, ac yn ei rôl fel gwarcheidwad Stella, dylai feddwl
bob amser am yr hyn sydd orau i Stella wrth wneud penderfyniadau. Nid oes angen y rhwymynnau ar Stella; gwnaethpwyd y penderfyniad hwn gan ddiystyru llesiant Stella, ac mae hynny’n annerbyniol.
Erthygl 12: Parch at Farn Plant
Pan mae Stella’n esbonio wrth dditectif sut mae hi’n credu bod ei modryb wedi llofruddio ei rhieni, mae’n cael ei hanwybyddu a’i dilorni! Fodd bynnag, dan y gyfraith, ni ddylai hyn ddigwydd. Mae gan Stella hawl i fynegi ei barn ar faterion sy’n effeithio arni, ac mae’r gyfraith yn nodi bod rhaid ystyried y safbwyntiau hyn.
Erthygl 27: Yr Hawl i Safon Byw Ddigonol
Pan mae Stella’n ceisio dianc o’r ystâd ac oddi wrth gynlluniau dieflig ei modryb, mae hi’n cael ei dal a’i chosbi drwy gael ei chludo i “seler glo bach a thywyll yn naeargell y tŷ”. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod byw mewn ystafell o’r fath. Mae pob modfedd o’r ystafell yn “ddu gyda llwch glo” ac nid oes ffenestri na goleuadau. O dan erthygl 27, dylai pob plentyn gael safon byw dda i’w galluogi i dyfu a datblygu. Rhieni a gwarcheidwaid sy’n gyfrifol am ddarparu hyn ac, os na allant wneud hynny, dylai’r Llywodraeth helpu.
Erthygl 28: Yr Hawl i Addysg
Pan mae Anti Alberta yn cael galwad ffôn gan yr ysgol ynghylch absenoldeb Stella, mae’n dweud wrth y brifathrawes bod Stella yn dal mewn coma ac “ni fydd hi’n dychwelyd i St Agatha yn fuan”. Fodd bynnag, fel y gwyddom, mae Alberta yn dweud celwydd ac mae Stella yn ffit ac yn gallu mynychu’r ysgol. Nid oes ganddi hawl i at al Stella rhag mynd i’r ysgol. Yn wir, mae hawl Stella i fynd i’r ysgol yn cael ei gwarchod o dan erthygl 28, sy’n datgan bod gan bob plentyn yr hawl i addysg. Yng Nghymru, os ydych rhwng 5 ac 16 oed, dylech fod mewn addysg amser llawn, a’ch rhieni neu’ch gwarcheidwad sy’n gyfrifol am sicrhau hyn. Os nad ydynt yn gwneud hynny, mae gan yr ysgol
a’r cyngor lleol bwerau cyfreithiol amrywiol y gallent eu defnyddio i’ch helpu, e.e. gorchymyn rhianta neu orchymyn goruchwylio addysg. I ddysgu mwy, ewch i’r dudalen we hon.
Erthygl 37: Triniaeth Annynol
Pan mae ymdrechion Anti Alberta i dwyllo Stella i roi’r ystâd iddi yn methu, mae’n troi at y “rac tylluan”. Dyluniwyd yr offeryn hwn gan Alberta ei hun er mwyn ei galluogi i ymestyn ei thylluan anwes, Wagner, er mwyn ennill cystadleuaeth am y dylluan dalaf! Mae hi’n defnyddio’r cyfarpar cythreulig i arteithio Stella i lofnodi’r brydles o’r diwedd. Wrth wneud hynny, mae Alberta yn torri’r gyfraith. Ni ddylai plant byth gael eu harteithio na’u trin yn annynol. Rhaid eu trin â pharch a gofal.
Yng Nghymru yn ddiweddar, mae cyfraith newydd wedi’i llunio sy’n golygu bod cosb gorfforol wedi’i gwahardd. Mae’r gyfraith hon yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys rhieni ac unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn os yw’r rhieni’n absennol (fel Anti Alberta). Mae cosb gorfforol yn cyfeirio at ble mae plentyn yn cael ei gosbi gan ddefnyddio grym corfforol, e.e. taro, slapio neu ysgwyd, ond mae ffyrdd eraill hefyd. Mae Anti Alberta, ac unrhyw un arall sy’n cosbi plentyn yn gorfforol, yn torri’r gyfraith, a gallai gael ei harestio neu ei chyhuddo o ymosod am wneud hynny.
I Gloi…
Os byddwch chi erioed mewn sefyllfa debyg i un Stella, mae’n bwysig cofio bod y gyfraith ar eich ochr chi. Mae 54 erthygl wedi’u dylunio’n benodol i’ch cadw chi’n ddiogel, yn iach
ac i’ch amddiffyn, ac mae bron pob gwlad yn y byd wedi cytuno ar yr hawliau hyn! Os hoffech ddysgu mwy am eich hawliau yn y cartref, edrychwch ar y dudalen we hon sy’n ymdrin â’ch hawliau mewn pob math o wahanol sefyllfaoedd y gallech fod yn eu hwynebu yn y cartref. Yn olaf, cofiwch fod grym mewn gwybodaeth ac mae dysgu am eich hawliau yn ffordd bwerus o’ch helpu i sefyll dros yr hyn sy’n deg ac yn iawn.
Gair Am yr Awdur
Fy enw i yw Najiyah ac rwy’n fyfyriwr y gyfraith yn fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y blog hwn gymaint ag y gwnes i fwynhau ei ysgrifennu, a gobeithio ei fod wedi eich helpu i ddysgu rhywbeth newydd am eich hawliau. Roedd hi’n hwyl ailddarllen un o’m hen ffefrynnau. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, rwy’n bendant yn argymell eich bod yn darllen Anti Afiach. Mae’n llawn troeon trwstan a chyfrinachau cudd. Peidiwch â phoeni, fe wnes i’n siŵr nad oes unrhyw fanylion yn y blog hwn a fyddai’n difetha’ch darllen!
Diolch i Rebecca Ferris o Harding Evans Solicitors am brawfddarllen y blog hwn.
