“Eiliad arwyddocaol yn natblygiad democratiaeth yng Nghymru”
Yr Achlysur – ‘Hyb DDG’ – trafodaeth fyw dros gyswllt fideo ynglŷn â swyddogaeth plant fel amddiffynwyr hawliau dynol cyn y Diwrnod o Drafodaeth Gyffredinol gan y CU, a gynhelir yng Ngenefa ar 28ain Medi 2018.
Y Cyfranogwyr – Aelodau o Senedd Ieuenctid a Senedd Plant yr Alban, a phobl ifanc sy’n gweithio ar hawliau dynol plant yng Nghymru – gan gynnwys disgyblion o Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Y Coed Duon a Phanel Cynghori Pobl Ifanc y Comisiynydd Plant.
Mae dau grŵp o bobl ifanc yn cwrdd, yn sgwrsio ac yn creu cysylltiadau. Mae’n digwydd drwy’r amser. Beth oedd mor wahanol ynglŷn â’r sgwrs dros y we a ddigwyddodd ar brynhawn dydd Mercher, 20fed Mehefin 2018 a gymhellodd yr Athro Jane Williams o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Abertawe, i wneud y sylw hwn?
Wel, i ddechrau, roedd un o’r grwpiau o bobl ifanc yn eistedd mewn ystafell bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yng Nghaerdydd. Roedd y llall yn yr Alban, yn Senedd yr Alban. A thra bod digon o grwpiau wedi cymryd rhan ar ddigon o sgyrsiau dros y we o’r blaen, roedd rhywbeth arbennig iawn ynglŷn â’r sgwrs hon.
Yn ail, nid yn unig y cyfranogwyr ond pwnc y drafodaeth a oedd yn arwyddocaol. Roedd y sgwrs dros y we yn nodi’r tro cyntaf i aelodau o Senedd Ieuenctid a Senedd Plant yr Alban, a phobl ifanc sy’n gweithio ar hawliau dynol plant yng Nghymru gymryd rhan mewn Hyb DDG (Diwrnod o Drafodaeth Gyffredinol) gyda’i gilydd.
Amddiffynwyr Hawliau Dynol a Hyb DDG
Gwarchod a Grymuso Plant fel Amddiffynwyr Hawliau Dynol yw thema’r Diwrnod o Drafodaeth Gyffredinol eleni, sydd wedi’i drefnu gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Er y gall unrhyw un fod yn amddiffynnwr hawliau dynol, yn gwarchod a hyrwyddo hawliau dynol, mae’r CU yn cydnabod y gall plant fod angen mwy o gefnogaeth er mwyn cyflawni’r swyddogaeth hon. Mae’r Diwrnod o Drafodaeth Gyffredinol wedi cael ei drefnu i ganolbwyntio ar beth mae’n ei olygu i blant a phobl ifanc i fod yn amddiffynwyr hawliau dynol. Mae Hyb DDG yn gyfle i blant a phobl ifanc drafod y materion, ac yn eu tro, eu bwydo i’r DDG. Mae rhai o aelodau Senedd Ieuenctid a Senedd Plant yr Alban yn mynd i Genefa a byddan nhw’n gallu cyflwyno’r canlyniadau a gafodd eu trafod yn ystod y sgwrs dros y we.
Mwy o wybodaeth ynglŷn â’r Hyb DDG cyntaf yng Nghymru/yr Alban
Yn cael ei gadeirio yn fedrus gan Jack Gillum o YGPIC – yr Ymgyrch dros Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru – yng Nghymru, a Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc dros yr Alban, gwnaed cyflwyniadau a symudodd y cyfarfod yn gyflym ymlaen at wir fusnes y prynhawn – rhannu profiadau, gwrando a gofyn cwestiynau. Hedfanodd yr amser, a chyn bo hir, daeth yn amser i’r drafodaeth ddod i ben.
Yma yng Nghymru, rydym yn gyffrous ynglŷn â’r etholiadau sydd ar ddod i Senedd Ieuenctid Cymru, a fydd yn digwydd ym mis Tachwedd 2018. Mae’n ddatblygiad gwirioneddol gyffrous, ac felly, roedd hyn yn gyfle ffantastig i rannu profiadau a chasglu gwybodaeth, ac inni yng Nghymru gael ein hysbrydoli gan y gwaith gwych y mae pobl ifanc yn yr Alban yn cymryd rhan ynddo. Er bod democratiaeth ieuenctid yn yr Alban yn fwy ymwreiddiedig, roedd y profiadau a rannwyd gan Bobl Ifanc Cymru ynglŷn â’r gwaith y maen nhw’n ei wneud yng Nghymru fel amddiffynwyr hawliau dynol wedi gwneud argraff arnyn nhw.
Roedd y sgwrs dros y we yn enghraifft wych o bobl ifanc yn dod ynghyd gydag un diben a rennir – roedd yn tynnu sylw yn ogystal at themâu cyffredin sy’n codi i bobl ifanc, lle bynnag y maen nhw yn y Deyrnas Unedig –
- Pwysigrwydd o fod yn derbyn gwybodaeth. Mae PCUHP yn rhoi hawl i blant dderbyn gwybodaeth a gallu cael mynediad at wybodaeth. Tynnodd pobl ifanc yr Alban a Chymru sylw at ba mor bwysig ydi hi iddyn nhw gael gwybodaeth ynglŷn â’r pethau sy’n eu heffeithio nhw.
- Yr angen ar gyfer hyfforddiant. Mae hyfforddiant yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau y maen nhw eu hangen i ymchwilio i’r materion sydd o bwys iddyn nhw, mynegi eu hunain yn eglur a chael eu clywed.
- Dylai pobl ifanc gael cyfle i ymgysylltu a bod yn ymgysylltiedig. Mae barn plant a phobl ifanc yn cyfrif a dylid gwrando arnyn nhw wrth wneud penderfyniadau.
- Mae cynghreiriau gyda phobl sydd mewn grym yn helpu i gyflawni pethau. Eglurodd aelodau o Senedd Ieuenctid yr Alban sut oedd hyn wedi’i helpu nhw yn awr bod ganddyn nhw gefnogaeth y Prif Weinidog. Yng Nghymru, yr oedd y gefnogaeth ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru gan ffigyrau amlwg yn cynnwys Elin Jones AC, Llywydd y Senedd wedi bod yn hanfodol i symud Senedd Ieuenctid Cymru ymlaen. Roedd cefnogaeth gan yr Arsyllfa yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, ym Mhrifysgol Abertawe, wedi helpu i gryfhau eu hymchwil, eu heffaith a’u dylanwad.
Gallwch chi ddarllen blog arall yma ynglŷn â’r digwyddiad, gan Gomisiynydd Plant a Phobl ifanc yr Alban, yma.
