Amddiffyniad cyfartal rhag gwahaniaethu ar gyfer plant anabl

Amddiffyniad cyfartal rhag gwahaniaethu ar gyfer plant anabl

Blog Gwadd gan Polly Sweeney

 

Bydd miloedd o blant ag anableddau bellach yn cael eu hamddiffyn yn briodol rhag gwahaniaethu mewn ysgolion yn dilyn penderfyniad pwysig a ganfu fod cyfreithiau cydraddoldeb y llywodraeth yn anghyfreithlon.

Penderfynodd y Tribiwnlys Uchaf fod rheoliadau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a oedd yn eithrio plant sydd â ‘thueddiad i gam-drin yn gorfforol’ o amddiffyniad y Ddeddf yn achosi gwahaniaethu anghyfreithlon dan Erthygl 14 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i’r graddau y maent yn berthnasol i blant â namau arnynt sy’n achosi risg uwch o ymddygiad ymosodol corfforol.

Canfu’r Barnwr Rowley, yn unol ag adran 3 Deddf Hawliau Dynol 1998, nad yw rheoliad 4(1)(c) Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Anabledd) ‘yn berthnasol i blant mewn addysg sydd â chyflwr cydnabyddedig sy’n fwy tebygol o olygu tueddiad i gam-drin yn gorfforol’.

Dygwyd yr apêl gan rieni bachgen 13 mlwydd oed ag anghenion addysgol arbennig, a elwir ‘L’ a gafodd ei wahardd o’r ysgol oherwydd ymddygiad a oedd yn gysylltiedig â’i awtistiaeth.

Dan gyfreithiau cydraddoldeb y llywodraeth, sydd bellach wedi’u canfod yn anghyfreithlon gan y Tribiwnlys, nid oedd gan L a phlant eraill â chyflyrau tebyg, amddiffyniad rhag gwahaniaethu oherwydd bod eu hymddygiad heriol yn cael ei ystyried yn ‘dueddiad i gam-drin yn gorfforol’ – hyd yn oed mewn achosion lle’r oedd yr ymddygiad ei hun o ganlyniad uniongyrchol i gyflwr y plentyn. Yr oedd hyn yn golygu nad oedd plant fel L yn cael eu trin fel ‘anabl’ yng nghyswllt eu hymddygiad ymosodol corfforol ac roeddynt wedi’u gadael heb ddim ffordd ymarferol nac effeithlon o herio penderfyniadau i’w gwahardd o’r ysgol.

Mae diffiniad cyfreithiol ‘cam-drin corfforol’ wedi ei ymestyn i’r fath raddau fel ei fod yn golygu gwrthod amddiffyniad rhag gwahaniaethu dan gyfraith i blant anabl hyd yn oed cyn ieuanged â chwech neu saith oed a allai fod wedi arddangos ond lefel isel o ymddygiad ymosodol corfforol ddyrnaid o weithiau, neu hyd yn oed unwaith yn unig os oedd yr ymddygiad ymosodol corfforol yn sylweddol.  Mae effaith gwahardd plant anabl o ysgolion, nid yn unig ar y plentyn a’i deulu, ond ar gymdeithas yn ehangach, yn ddifrifol a phellgyrhaeddol. Gwyddom fod plant sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol yn fwy tebygol o ganfod eu hunain yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn llai tebygol o fynd i gyflogaeth a hyfforddiant.

Nid oeddem yn credu mai dyma oedd bwriad y Senedd na hyd yn oed y Llywodraeth pan gyflwynwyd y rheol bresennol, felly aethom ati i ofyn i’r Tribiwnlys ganfod bod y ffordd y cafodd y rheol ei dehongli hyd yma yn torri hawliau dynol ein cleient, gan ddadlau bod yr eithriad hwn yn gwahaniaethu yn erbyn plant anabl gyda chyflyrau fel awtistiaeth a oedd yn fwy tebygol o achosi ymddygiad heriol.

Dengys ystadegau fod plant ag anghenion addysg arbennig yn cyfrif am dros hanner yr holl waharddiadau o ysgolion. Fodd bynnag, yr oedd y diffyg amddiffyniad dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu, hyd nes cafwyd y dyfarniad hwn, nad oedd yn ofynnol i ysgolion gyfiawnhau fod penderfyniad i wahardd plant anabl yn yr amgylchiadau hyn yn gymesur.

Yna canfu’r Barnwr Rowley, y gofynnwyd iddo archwilio a oedd y rheol hon yn torri hawliau dynol L a phlant eraill, fod y rheol hon “ymhell iawn o greu cydbwysedd teg rhwng hawliau plant fel L ar un llaw a buddiannau’r gymuned ar y llaw arall”.

Gan gydnabod “nad yw ymddygiad ymosodol yn ddewis i blant gydag awtistiaeth”, dyfarnodd hi fel a ganlyn: “Yn fy marn i mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi methu â chyfiawnhau cadw darpariaeth mewn grym sy’n eithrio o gwmpas amddiffyniad y Ddeddf Cydraddoldeb, blant y mae eu hymddygiad yn yr ysgol yn arddangos yr union gyflwr sy’n galw am ddarparu addysg arbennig ar eu cyfer. Yn y cyd-destun hwnnw, yn fy marn i y mae’n anghydnaws diffinio fel ‘troseddol neu wrthgymdeithasol’ ymddygiad plant y mae eu cyflwr (heb unrhyw fai arnynt hwy) yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd penodol fel ei fod yn cyfiawnhau eu trin yn wahanol i blant y mae eu cyflwr yn arddangos ei hun mewn ffyrdd eraill.”

Nid yw’r canfyddiad hwn yn golygu fod ysgolion yn cael eu hatal rhag gwahardd plant lle y mae’n angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny. Fodd bynnag, bydd yn sicrhau bod pob plentyn anabl yn cael yr un warchodaeth, amddiffyniad a hawliau dan gyfraith, waeth os yw eu hanabledd yn achosi ymddygiad heriol ai peidio.

*****

Mae Polly Sweeney yn bartner yn yr Adran Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol yn Irwin Mitchell ac yn bennaeth ar y tîm Cyfraith Addysg cenedlaethol. Mae hi’n arbenigo mewn cyfraith addysg, gofal cymunedol a gofal iechyd (gan gynnwys triniaeth feddygol) a’r Llys Gwarchod. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn achosion sy’n cynnwys hawliau plant a phobl ifanc sydd ag anableddau.

Gadael Ymateb