Addysg Gyfreithiol

Y prif alwadau

  • Integreiddio Addysg Gyfreithiol yn y Cwricwlwm – Gwneud addysg gyfreithiol gynyddol, sy’n briodol i oedran, yn orfodol o lefel gynradd i uwchradd fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.
  • Buddsoddi mewn Hyfforddiant ac Adnoddau i Addysgwyr – Darparu DPP wedi’i dargedu ar lythrennedd cyfreithiol ac addysgu, sy’n seiliedig ar hawliau, ac sy’n cael ei gefnogi gan ddeunyddiau o safon uchel sy’n benodol i Gymru. 

Mae addysg gyfreithiol i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn rhan hanfodol, ond annatblygedig, o ddysgu dinesig. Mae’n rhoi i bobl ifanc yr wybodaeth, y gwerthoedd, a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau ac ymwneud yn ystyrlon â systemau cyfreithiol sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Yn ogystal â deall cyfreithiau, mae addysg gyfreithiol yn grymuso pobl ifanc i gymryd rhan mewn cymdeithas ddemocrataidd, canfod eu ffordd o gwmpas systemau cyfiawnder, ac amddiffyn eu hawliau. Cafodd yr angen am hyn ei leisio’n glir yn Ein Hawliau Ni, Ein Stori Ni (Y Ddraig Ffynci, 2008), lle galwodd dros 12,000 o blant a phobl ifanc ar ysgolion i ddarparu addysg gryfach am faterion cyfreithiol a hawliau.

Yng nghyd-destun datganoledig Cymru—lle mae mwy a mwy o wahaniaethau rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr, yn enwedig mewn meysydd fel iechyd, addysg, a thai—mae llythrennedd cyfreithiol yn hollbwysig er mwyn cael mynediad at gyfiawnder ac atebolrwydd democrataidd.

Er gwaethaf cydnabyddiaeth gynyddol o’i phwysigrwydd, mae Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus (PLE) yng Nghymru yn parhau’n dameidiog ac yn anghyson. Roedd y papur a gyhoeddwyd yn 2018, The Desert (Williams a Bussicott) yn disgrifio Cymru fel “diffeithwch o ran addysg gyfreithiol gyhoeddus,” ac yn tynnu sylw at fylchau o ran mynediad, cydgysylltu, ac adnoddau. Mae darpariaeth yn aml yn cael ei darparu’n unswydd mewn achosion penodol, mae’n dibynnu llawer iawn ar sesiynau sy’n cael eu harwain gan yr heddlu, ac nid yw wedi ei hintegreiddio yn y cwricwlwm cenedlaethol.

Cadarnhawyd y pryderon hyn mewn astudiaeth yn 2024 gan Brifysgol Caerdydd, a oedd yn nodi bod llai na hanner yr ysgolion cynradd yn darparu cynnwys cyfreithiol. Yn yr achosion hynny lle darperir cynnwys cyfreithiol, mae fel hynny arfer drwy SchoolBeat Cymru—sydd bellach wedi’i ddatgomisiynu gan Lywodraeth Cymru—ac mae’n tueddu i ganolbwyntio ar reoli ymddygiad yn hytrach na hawliau cyfreithiol neu brosesau cyfiawnder. Mae bylchau amlwg hefyd o ran hyder a gwybodaeth gyfreithiol athrawon.

Er gwaetha’r heriau hyn, mae cyfleoedd addawol:

  • Mae’r Cwricwlwm i Gymru (2022) yn cynnwys pwyslais ar ddinasyddiaeth egwyddorol, wybodus ac yn darparu llwyfan er mwyn ymwreiddio addysg gyfreithiol a hawliau
  • Mae mentrau fel Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a rhaglenni allgymorth sy’n cael eu harwain gan brifysgolion (e.e., Cyfraith Stryd) yn creu adnoddau hygyrch, sydd â chyd-destun Cymreig.
  • Mae fframweithiau polisi a gyhoeddwyd yn ddiweddar—gan gynnwys Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 a’r rhaglen Sicrhau Cyfiawnder i Gymru—yn pwysleisio bod llythrennedd cyfreithiol yn hanfodol ar gyfer mynediad at gyfiawnder ac ymgysylltu democrataidd.

Mae llawer o ysgolion hefyd yn ymwneud â Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau (RRSA) UNICEF, sy’n hyrwyddo diwylliant ymwybodol o hawliau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd cyn belled â chynnig addysg gyfreithiol ymarferol, yn enwedig ynglŷn â phrosesau priodol, cyfrifoldeb troseddol, neu ganfod ffordd o gwmpas y system gyfiawnder.

NODYN BRIFFIO

Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae’r briff hwn yn cynnwys dadansoddiad o sefyllfa bresennol addysg gyfreithiol gyhoeddus i blant a phobl ifanc yng Nghymru.