Dathlu Wythnos Ymddiriedolwyr: Dyma’r Adeg i Ymuno â Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru

Gan yr Athro Jane Williams, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru  Mae Wythnos Ymddiriedolwyr wastad yn adeg arbennig yng nghalendr y sector elusennau — amser i ddathlu'r miloedd o bobl ledled y DU sy'n rhoi o'u hamser, eu sgiliau, a'u...

Y Terfyn Dau Blentyn: Polisi Gwahaniaethol sy’n Torri Hawliau Plant

Gan Dr. Rhian CrokeArweinydd Ymgyfreithio Strategol ac Eiriolaeth Polisi ar Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru Cyflwyniad Yn gynnar yn 2025, rhoddwyd rhybudd llym gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF), y disgwylir y bydd dros 34% o blant Cymru yn byw mewn...

Taliad Plant yr Alban, ymyriad llwyddiannus i fynd i’r afael â thlodi plant – gwersi i Gymru

Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreithio Strategol ac Eiriolaeth Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru   Tlodi Plant yng Nghymru Mae adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree a gyhoeddwyd yn 2025 yn datgelu y disgwylir i dlodi plant yng Nghymru gyrraedd ei lefel...

Rhy ifanc i bleidleisio yn 15 oed – ond yn Droseddol Gyfrifol yn 10 oed? Amser i Ailfeddwl am Gyfiawnder Plant yng Nghymru a Lloegr

Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eirioli Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru Mewn newid pwysig, mae pobl ifanc 16 oed wedi cael yr hawl i bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol nesaf y DU — cam sy’n cydnabod eu gallu i gymryd rhan mewn prosesau...

Mae Gwybodaeth yn Bwerus: Adeiladu Llythrennedd Cyfreithiol gyda Phlant yng Nghymru

Rhywbeth rydw i wedi ei ddysgu yn y sesiwn heddiw: “Bod gan blant hawliau.”  Dyma adborth gan ddisgybl Blwyddyn 7 yn ystod Sesiwn Addysg Gyfreithiol a oedd yn cael ei dreialu i drafod Yr Amgylchedd a Llygredd. Sut allwn ni ddisgwyl i bobl ifanc dyfu i fod yn...

Mynd i’r Afael â ‘Throseddau Cyllyll Ymhlith Plant’ yng Nghymru: Mae Angen Ymateb sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth

Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreithia Strategol ac Eiriolaeth ar Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru Mae troseddau cyllyll ymhlith plant yn fater pryderus iawn sy’n gofyn am ymagwedd feddylgar, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r ystadegau swyddogol...

Newidiadau i Ganllawiau Dinasyddiaeth Brydeinig ar Gymeriad Da: effaith y polisi hwn ar blant

Yr wythnos hon, cafwyd newidiadau bach ond pwysig iawn i ganllawiau’r Swyddfa Gartref ar sut y penderfynir ar geisiadau am Ddinasyddiaeth Brydeinig. Tynnwyd sylw’r cyhoedd at y rhain gan y blog rhagorol Free Movement. Mae’r canllaw nawr yn cynnwys ‘mynediad...

Myfyrio ar hawliau plant yng Nghymru

Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eirioli Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru   Digwyddiadau ac adroddiadau diweddar ar hawliau plant   Yn ddiweddar, cafwyd adroddiadau a digwyddiadau sydd wedi ein helpu i fyfyrio ar y meysydd lle gwnaed...

Adroddiad am y digwyddiad Hawliau Plant a’r Gyfraith

Ym mis Medi 2024, cafodd Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru'r fraint o groesawu'r Rhwydwaith Cyfraith Plant y DU i Gymru am y tro cyntaf. Sefydlwyd y Rhwydwaith Cyfraith Plant yn 2019, sef grŵp o 9 corff cyfreithiol anllywodraethol a bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Maen...

Lloches wedi’r Etholiad Cyffredinol – Beth yw’r sefyllfa?

Cyn yr Etholiad Cyffredinol, roedd yna lawer o bolisïau newydd yn ymwneud â’r ffordd roedd y Deyrnas Unedig yn delio â Cheisiadau Lloches. Roedd y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon wedi cael Cydsyniad Brenhinol yng Ngorffennaf 2023, a gweithredwyd nifer o rannau allweddol,...

Mae’r Gyfraith yn Wahanol yng Nghymru

Yng Nghymru, mae’r gyfraith yn aml yn wahanol i’r gyfraith yn Lloegr.

Mae hyn oherwydd bod llywodraeth y DU wedi rhoi pŵer i’r Senedd (ac i Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon) i wneud rhai o’i deddfau ei hun. Mae’r gyfraith yn arbennig o wahanol mewn llawer o’r meysydd sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hefyd yn wahanol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

 

Prosiect bach yw Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru. Mae’n ddrwg iawn gennym ond ni allwn gynnig cyngor cyfreithiol i aelodau o’r cyhoedd. Yr hyn rydym yn ei wneud yw cefnogi achosion ymgyfreitha strategol, darparu gwybodaeth am y Gyfraith fel y mae’n effeithio ar blant yng Nghymru, a rhedeg rhaglen addysg.

Diweddarwyd ddiwethaf: Mehefin 2021